Mae gennym sesiynau dos cyntaf ac ail ddos alw heibio ar gael yn ein Canolfannau Brechu Torfol 8 - 11 Medi. Nid oes angen apwyntiad.
Helpwch ni i sicrhau bod eich brechlyn mor effeithiol â phosibl. Peidiwch fynychu os:
oes gennych symptomau COVID-19 ar hyn o bryd
ydych yn teimlo'n sâl
ydych wedi profi'n bositif am COVID-19 yn ystod y 28 diwrnod diwethaf
Ysbyty Bronllys
Dydd Mercher 8 Medi, 9.30yb - 4.30yp
Dydd Gwener 10 Medi, 11.30yb - 6.30yh
Dydd Sadwrn 11 Medi, 9.30yb - 4.30yp
Maes Sioe Brenhinol Cymru, Llanfair-ym-Muallt
Dydd Mawrth 7 Medi, 11.30yb - 6.30yh
Dydd Iau 9 Medi, 9.30yb - 4.30yp
Canolfan Hamdden Maldwyn, Y Drenewydd
Dydd Mercher 8 Medi, 9.30yb - 4.30yp
Dydd Iau 9 Medi, 11.30yb - 6.30yh
Dydd Gwener 10 Medi, 9.30yb - 4.30yp
Mae'r holl ddosau cyntaf gyda Pfizer ar hyn o bryd oni bai bod gennych angen clinig penodol am ddewis arall yn lle Pfizer. Bydd eich brechydd yn trafod hyn gyda chi pan fyddwch yn mynychu.
Mae ail ddos ar gael gyda Pfizer ac AstraZeneca. Byddwch yn derbyn yr un math o frechlyn ag a gawsoch ar gyfer eich dos cyntaf.
Edrychwch ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol i gael y wybodaeth ddiweddaraf.
Mae mwy o wybodaeth am frechu COVID-19 ym Mhowys ar gael ar ein gwefan:
https://pthb.nhs.wales/covid-vaccine