Neidio i'r prif gynnwy

Sesiynau Brechu COVID dos cyntaf ac ail ddos - wythnos yn dechrau 6 Medi

Gallwch fynychu ein clinigau galw heibio ar 8 - 11 Medi ar gyfer eich dos cyntaf os ydych chi'n oed 16+.

Gallwch fynychu ein clinigau galw heibio ar 8 - 11 Medi ar gyfer eich ail ddos os oedd eich dos cyntaf ym Mhowys dros wyth wythnos yn ôl.

 

Mae gennym sesiynau dos cyntaf ac ail ddos alw heibio ar gael yn ein Canolfannau Brechu Torfol 8 - 11 Medi. Nid oes angen apwyntiad.

Helpwch ni i sicrhau bod eich brechlyn mor effeithiol â phosibl. Peidiwch fynychu os:

  • oes gennych symptomau COVID-19 ar hyn o bryd

  • ydych yn teimlo'n sâl

  • ydych wedi profi'n bositif am COVID-19 yn ystod y 28 diwrnod diwethaf

Ysbyty Bronllys
Dydd Mercher 8 Medi, 9.30yb - 4.30yp
Dydd Gwener 10 Medi, 11.30yb - 6.30yh
Dydd Sadwrn 11 Medi, 9.30yb - 4.30yp

Maes Sioe Brenhinol Cymru, Llanfair-ym-Muallt
Dydd Mawrth 7 Medi, 11.30yb - 6.30yh
Dydd Iau 9 Medi, 9.30yb - 4.30yp

Canolfan Hamdden Maldwyn, Y Drenewydd
Dydd Mercher 8 Medi, 9.30yb - 4.30yp
Dydd Iau 9 Medi, 11.30yb - 6.30yh
Dydd Gwener 10 Medi, 9.30yb - 4.30yp

Mae'r holl ddosau cyntaf gyda Pfizer ar hyn o bryd oni bai bod gennych angen clinig penodol am ddewis arall yn lle Pfizer. Bydd eich brechydd yn trafod hyn gyda chi pan fyddwch yn mynychu.
Mae ail ddos ar gael gyda Pfizer ac AstraZeneca. Byddwch yn derbyn yr un math o frechlyn ag a gawsoch ar gyfer eich dos cyntaf.

Edrychwch ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Mae mwy o wybodaeth am frechu COVID-19 ym Mhowys ar gael ar ein gwefan:

https://pthb.nhs.wales/covid-vaccine

 

Rhannu:
Cyswllt: