Neidio i'r prif gynnwy

Sesiynau Brechu COVID dos cyntaf - wythnos yn dechrau 27 Medi

Gallwch fynychu ein clinigau galw heibio ar 27 Medi - 1 Hydref ar gyfer eich dos cyntaf os ydych chi'n 16+ oed.

 

Mae gennym sesiynau dos cyntaf galw heibio ar gael yn ein Canolfannau Brechu Torfol 27 Medi - 1 Hydref. Nid oes angen apwyntiad. NID yw sesiynau galw heibio ar gail ar gyfer eich ail ddos neu eich ddos atgyfnerthu.

Helpwch ni i sicrhau bod eich brechlyn mor effeithiol â phosibl. Peidiwch fynychu os:

  • oes gennych symptomau COVID-19 ar hyn o bryd

  • ydych yn teimlo'n sâl

  • ydych wedi profi'n bositif am COVID-19 yn ystod y 28 diwrnod diwethaf

Ysbyty Bronllys

  • Dydd Mawrth 28 Medi, 9.30yb - 4.00yp

  • Dydd Mercher 29 Medi, 11.30yb - 6.00yh

  • Dydd Iau 30 Medi, 11.30yb - 6.00yh

  • Dydd Gwener 1 Hydref, 9.30yb - 4.00yp

Maes Sioe Brenhinol Cymru, Builth Wells

  • Dydd Mawrth 28 Medi, 9.30yb - 4.00yp

  • Dydd Mercher 29 Medi, 11.30yb - 6.00yh

  • Dydd Iau 30 Medi, 11.30yb - 6.00yh

  • Dydd Gwener 1 Hydref, 9.30yb - 4.00yp

Canolfan Hamdden Maldwyn, Y Drenewydd

  • Dydd Mawrth 28 Medi, 9.30yb - 4.00yp

  • Dydd Mercher 29 Medi, 11.30yb - 6.00yh

  • Dydd Iau 30 Medi, 11.30yb - 6.00yh

  • Dydd Gwener 1 Hydref, 9.30yb - 4.00yp

 

Mae'r holl ddosau cyntaf gyda Pfizer ar hyn o bryd oni bai bod gennych angen clinig penodol am ddewis arall yn lle Pfizer. Bydd eich brechydd yn trafod hyn gyda chi pan fyddwch yn mynychu.

Derbyniwch ein hymddiheuriadau nad oes gennym sesiynau galw heibio ail ddos yr wythnos hon ond defnyddiwch ein Ffurflen Mynediad â Blaenoriaeth a byddwn yn trefnu apwyntiad wedi'i archebu ar eich cyfer: Apwyntiadau Ail Ddos - Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (nhs.wales)

Edrychwch ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Mae mwy o wybodaeth am frechu COVID-19 ym Mhowys ar gael ar ein gwefan: https://pthb.nhs.wales/covid-vaccine

 

Rhannu:
Cyswllt: