Neidio i'r prif gynnwy

Sesiynau Brechu COVID dos cyntaf ac ail dos - wythnos yn dechrau 16 Awst

Gallwch fynychu ein clinigau galw heibio 18 - 22 Awst ar gyfer eich dos cyntaf os ydych chi'n oed 16+.

Gallwch fynychu ein clinigau galw heibio ar 18 - 22 Awst ar gyfer eich ail ddos os oedd eich dos cyntaf ym Mhowys cyn 27 Mehefin 2021.

 

Mae gennym sesiynau dos cyntaf ac ail ddos galw heibio yn ein Canolfannau Brechu Torfol 18 - 22 Awst. Nid oes angen apwyntiad.

Helpwch ni i sicrhau bod eich brechlyn mor effeithiol â phosibl. Peidiwch fynychu os:

  • oes gennych symptomau COVID-19 ar hyn o bryd

  • ydych yn teimlo'n sâl

  • ydych wedi profi'n bositif am COVID-19 yn ystod y 28 diwrnod diwethaf

Ysbyty Bronllys
Dydd Mercher 18 Awst, 9.30yb - 5.30yp
Dydd Iau 19 Awst, 9.30yb - 5.30yp
Dydd Sul 22 Awst, 12.00yp - 4.00yp

Maes Sioe Brenhinol Cymru, Llanfair-ym-Muallt
Dydd Sadwrn 21 Awst, 9.30yb - 5.30yp

Canolfan Hamdden Maldwyn, Y Drenewydd
Dydd Iau 19 Awst, 9.30yb - 5.30yp
Dydd Gwener 20 Awst, 9.30yb - 5.30yp
Dydd Sul 22 Awst, 12.00yp - 4.00yp

Mae'r holl ddosau cyntaf gyda Pfizer ar hyn o bryd oni bai bod gennych angen clinig penodol am ddewis arall yn lle Pfizer. Bydd eich brechydd yn trafod hyn gyda chi pan fyddwch yn mynychu.
Mae ail ddos ar gael gyda Pfizer ac AstraZeneca. Byddwch yn derbyn yr un math o frechlyn ag a gawsoch ar gyfer eich dos cyntaf.

Edrychwch ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Mae mwy o wybodaeth am frechu COVID-19 ym Mhowys ar gael ar ein gwefan: https://pthb.nhs.wales/covid-vaccine

 

Rhannu:
Cyswllt: