Neidio i'r prif gynnwy

Sesiynau Galw Heibio Brechu COVID - wythnos yn dechrau 21 Chwefror

Mae gennym ni sesiynau galw heibio ar gael yn ein Canolfannau Brechu Torfol wythnos yn dechrau 21 Chwefror ar gyfer y rhai 12+ oed. Gwiriwch y dyddiadau a chymhwysedd isod. Gallwch hefyd wirio ein tudalen galw heibio am y wybodaeth ddiweddaraf.

 

Gallwch fynychu ein clinigau galw heibio am frechlyn atgyfnerthu os ydych:

  • Yn 18+ oed
  • Wedi cwblhau eich cwrs cynradd (ee ail ddos) fwy na thri mis yn ôl

PEIDIWCH â mynychu am frechlyn atgyfnerthu os ydych wedi profi'n bositif am COVID-19 yn ystod y 28 diwrnod diwethaf.

 

Gallwch fynychu ein clinigau galw heibio ar gyfer eich dos cyntaf os ydych:

  • Yn 12+ oed
  • Wedi cofrestru gyda Meddyg Teulu ym Mhowys
  • Yng nghwmni rhiant/gwarcheidwad os 12-15 oed

    PEIDIWCH â mynychu os ydych rhwng 12-17 oed ac wedi profi’n bositif am COVID yn yr 84 diwrnod diwethaf, neu os ydych yn 18+ ac wedi profi’n bositif am COVID-19 yn y 28 diwrnod diwethaf.

     

    Gallwch fynychu ein clinigau galw heibio ar gyfer eich ail ddos os ydych:

    • Yn 18+ oed ac wedi cael eich dos Pfizer cyntaf fwy nag wyth wythnos yn ôl (mae ail ddosau AZ trwy apwyntiad).
    • NEU yn 12-17 oed ac wedi derbyn eich dos Pfizer cyntaf fwy na deuddeg wythnos yn ôl
    • Wedi cofrestru gyda Meddyg Teulu ym Mhowys

    PEIDIWCH â mynychu os ydych rhwng 12-17 oed ac wedi profi’n bositif am COVID yn yr 84 diwrnod diwethaf, neu os ydych yn 18+ ac wedi profi’n bositif am COVID-19 yn y 28 diwrnod diwethaf.

     

    Ysbyty Bronllys

    • Dydd Llun 21 Chwefror: 11.30yb - 2.15yp a 3.30yp - 6yh

    • Dydd Mawrth 22 Chwefror: 9.30yb - 12.15yp a 1.30yp - 4yp

    • Dydd Mercher 23 Chwefror: 9.30yb - 12.15yp a 1.30yp - 4yp

    • Dydd Iau 24 Chwefror: 11.30yb - 2.15yp a 3.30yp - 6yh

    • Dydd Gwener 25 Chwefror: 9.30yb - 12.15yp a 1.30yp - 4yp

    Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanfair-ym-Muallt

    • Dydd Llun 21 Chwefror: 11.30yb - 2.15yp a 3.30yp - 6yh

    • Dydd Mawrth 22 Chwefror: 9.30yb - 12.15yp a 1.30yp - 4yp

    • Dydd Mercher 23 Chwefror: 11.30yb - 2.15yp a 3.30yp - 6yh

    • Dydd Gwener 25 Chwefror: 9.30yb - 12.15yp a 1.30yp - 4yp

    Canolfan Ddydd Stryd y Parc, Y Drenewydd *Nodwch y newid lleoliad*

    • Dydd Llun 21 Chwefror: 9.30yb - 12.15yp a 1.30yp - 4ypar gau oherwydd Storm Franklin

    • Dydd Mawrth 22 Chwefror: 11.30yb - 2.15yp a 3.30yp - 6yh

    • Dydd Mercher 23 Chwefror: 11.30yb - 2.15yp a 3.30yp - 6yh

    • Dydd Iau 24 Chwefror: 9.30yb - 12.15yp a 1.30yp - 4yp

    • Dydd Gwener 25 Chwefror: 9.30yb - 12.15yp a 1.30yp - 4yp

    Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am Ganolfan Ddydd Stryd y Parc, gan gynnwys parcio a sut i gyrraedd yno, yma: Canolfan Ddydd Stryd y Parc y Drenewydd


    Nid oes angen apwyntiad.

    Helpwch ni i sicrhau bod eich brechlyn mor effeithiol â phosibl. Peidiwch fynychu os:

    • oes gennych symptomau COVID-19 ar hyn o bryd

    • ydych yn teimlo'n sâl

    • ydych wedi profi'n bositif am COVID-19 yn ystod y 28 diwrnod diwethaf (os ydych dros 18 oed) neu NAD ydych wedi profi’n bositif yn yr 84 diwrnod diwethaf (os ydych o dan 18 oed)

    Mae pob dos cyntaf gyda Pfizer ar hyn o bryd oni bai bod gennych angen clinigol penodol am ddewis arall yn lle Pfizer. Bydd eich brechwr yn trafod hyn gyda chi pan fyddwch yn mynychu.

    Daliwch i wirio ein sianeli cyfryngau cymdeithasol am ddiweddariadau.

    Mae rhagor o wybodaeth am frechu COVID-19 ym Mhowys ar gael ar ein gwefan yn https://pthb.nhs.wales/covid-vaccine

     


     

    Cyhoeddwyd: 18/02/22

      Rhannu:
      Cyswllt: