Neidio i'r prif gynnwy

Sesiynau Galw Heibio Brechu COVID - wythnos yn dechrau 25 Ebrill

Mae gennym ni sesiynau galw heibio ar gael yn ein Canolfannau Brechu Torfol wythnos yn dechrau 25 Ebrill ar gyfer y rhai 12+ oed. Gwiriwch y dyddiadau a chymhwysedd isod. Gallwch hefyd wirio ein tudalen galw heibio am y wybodaeth ddiweddaraf.

 

Gallwch fynychu ein clinigau galw heibio am frechlyn atgyfnerthu cyntaf os ydych:

  • Yn 18+ oed
  • Wedi cwblhau eich cwrs cynradd (ee ail ddos) fwy na thri mis yn ôl

PEIDIWCH â mynychu am sesiwn atgyfnerthu cyntaf os ydych wedi profi'n bositif am COVID-19 yn ystod y 28 diwrnod diwethaf.

Nid yw ail atgyfnerthwyr ("spring boosters") ar gael ar hyn o bryd ar sail galw heibio.

 

Gallwch fynychu ein clinigau galw heibio ar gyfer eich dos cyntaf os ydych:

  • Yn 12+ oed
  • Yng nghwmni rhiant/gwarcheidwad os 12-15 oed

PEIDIWCH â mynychu os ydych rhwng 12-17 oed ac wedi profi’n bositif am COVID yn yr 84 diwrnod diwethaf, neu os ydych yn 18+ ac wedi profi’n bositif am COVID-19 yn y 28 diwrnod diwethaf.

 

Gallwch fynychu ein clinigau galw heibio ar gyfer eich ail ddos os ydych:

  • Yn 18+ oed ac wedi cael eich dos Pfizer cyntaf fwy nag wyth wythnos yn ôl (mae ail ddosau AZ trwy apwyntiad).
  • NEU yn 12-17 oed ac wedi derbyn eich dos Pfizer cyntaf fwy na deuddeg wythnos yn ôl

PEIDIWCH â mynychu os ydych rhwng 12-17 oed ac wedi profi’n bositif am COVID yn yr 84 diwrnod diwethaf, neu os ydych yn 18+ ac wedi profi’n bositif am COVID-19 yn y 28 diwrnod diwethaf.

 

Ysbyty Bronllys

  • Dydd Llun 25 Ebrill: 11.30yb - 2.15yp a 3.30yp - 6yh

  • Dydd Mawrth 26 Ebrill: 9.30yb - 12.15yp a 1.30yp - 4yp

  • Dydd Mercher 27 Ebrill: 9.30yb - 12.15yp a 1.30yp - 4yp

  • Dydd Iau 28 Ebrill: 11.30yb - 2.15yp a 3.30yp - 5yh

  • Dydd Gwener 29 Ebrill: 9.30yb - 12.15yp a 1.30yp - 4yp

Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanfair-ym-Muallt

  • Dydd Llun 25 Ebrill: 11.30yb - 2.15yp a 3.30yp - 6yh

  • Dydd Mawrth 26 Ebrill: 9.30yb - 12.15yp a 1.30yp - 4yp

  • Dydd Mercher 27 Ebrill: 11.30yb - 2.15yp a 3.30yp - 6yh

  • Dydd Iau 28 Ebrill: 9.30yb - 12.15yp a 1.30yp - 4yp

Canolfan Ddydd Stryd y Parc, Y Drenewydd *Nodwch y newid lleoliad*

  • Dydd Llun 25 Ebrill: 9.30yb - 12.15yp a 1.30yp - 4yp

  • Dydd Mawrth 26 Ebrill: 11.30yb - 2.15yp a 3.30yp - 6yh

  • Dydd Mercher 27 Ebrill: 11.30yb - 2.15yp a 3.30yp - 6yh

  • Dydd Iau 28 Ebrill: 9.30yb - 12.15yp a 1.30yp - 4yp

  • Dydd Gwener 29 Ebrill: 9.30yb - 12.15yp a 1.30yp - 4yp

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am Ganolfan Ddydd Stryd y Parc, gan gynnwys parcio a sut i gyrraedd yno, yma: Canolfan Ddydd Stryd y Parc y Drenewydd


Nid oes angen apwyntiad.

Helpwch ni i sicrhau bod eich brechlyn mor effeithiol â phosibl. Peidiwch fynychu os:

  • oes gennych symptomau COVID-19 ar hyn o bryd

  • ydych yn teimlo'n sâl

  • ydych wedi profi'n bositif am COVID-19 yn ystod y 28 diwrnod diwethaf (os ydych dros 18 oed) neu NAD ydych wedi profi’n bositif yn yr 84 diwrnod diwethaf (os ydych o dan 18 oed)

Mae pob dos cyntaf gyda Pfizer ar hyn o bryd oni bai bod gennych angen clinigol penodol am ddewis arall yn lle Pfizer. Bydd eich brechwr yn trafod hyn gyda chi pan fyddwch yn mynychu.

Daliwch i wirio ein sianeli cyfryngau cymdeithasol am ddiweddariadau.

Mae rhagor o wybodaeth am frechu COVID-19 ym Mhowys ar gael ar ein gwefan yn https://pthb.nhs.wales/covid-vaccine

 


 

Cyhoeddwyd: 22/04/22

    Rhannu:
    Cyswllt: