Neidio i'r prif gynnwy

Sesiynau Galw Heibio Brechu COVID - wythnos yn dechrau 4 Gorffennaf

Mae gennym sesiynau galw heibio ar gael yn ein Canolfannau Brechu Torfol wythnos yn dechrau 4 Gorffennaf ar gyfer y rhai 13+ oed. Gwiriwch y dyddiadau a chymhwysedd isod. Gallwch hefyd wirio ein tudalen galw heibio am y wybodaeth ddiweddaraf.

 

Gallwch fynychu ein clinigau galw heibio am frechlyn atgyfnerthu cyntaf os ydych:

  • Yn 16+ oed
  • Wedi cwblhau eich cwrs cynradd (ee ail ddos) fwy na thri mis yn ôl

PEIDIWCH â mynychu am sesiwn atgyfnerthu cyntaf os ydych wedi profi’n bositif am COVID-19 yn ystod y 28 diwrnod diwethaf.

 

Gallwch fynychu ein clinigau galw heibio ar gyfer eich dos cyntaf os ydych:

  • Yn 13+ oed ( gallwch hefyd fynychu os cawsoch eich geni ar neu cyn 31 Awst 2009 )
  • Yng nghwmni rhiant/gwarcheidwad os 12-15 oed

PEIDIWCH â mynychu os ydych rhwng 12-17 oed ac wedi profi’n bositif am COVID yn yr 84 diwrnod diwethaf, neu os ydych yn 18+ ac wedi profi’n bositif am COVID-19 yn y 28 diwrnod diwethaf.

 

Gallwch fynychu ein clinigau galw heibio ar gyfer eich ail ddos os ydych:

  • Yn 18+ oed ac wedi cael eich dos Pfizer cyntaf fwy nag wyth wythnos yn ôl (mae ail ddosau AZ trwy apwyntiad).
  • NEU yn 13-17 oed ac wedi cael eich dos Pfizer cyntaf fwy na deuddeg wythnos yn ôl ( gallwch hefyd fynychu os ydych yn cael eich geni ar neu cyn 31 Awst 2009 )

PEIDIWCH â mynychu os ydych rhwng 12-17 oed ac wedi profi’n bositif am COVID yn yr 84 diwrnod diwethaf, neu os ydych yn 18+ ac wedi profi’n bositif am COVID-19 yn y 28 diwrnod diwethaf.

 

Ysbyty Bronllys

  • Dydd Llun 4 Gorffennaf: 11.30yb - 2.15yp

  • Dydd Mawrth 5 Gorffennaf: 9.30yb - 12.15yp a 1.30yp - 4.15yp

  • Dydd Mercher 6 Gorffennaf: 9.30yb - 12.15yp a 1.30yp - 4.15yp

  • Dydd Iau 7 Gorffennaf: 11.30yb - 2.15yp

  • Dydd Gwener 8 Gorffennaf: 9.30yb - 12.15yp a 1.30yp - 4.15yp

Canolfan Ddydd Stryd y Parc, Y Drenewydd *Nodwch y newid lleoliad*

  • Dydd Llun 4 Gorffennaf: 9.30yb - 12.15yp a 1.30yp - 4.15yp

  • Dydd Mawrth 5 Gorffennaf: 11.30yb - 2.15yp

  • Dydd Mercher 6 Gorffennaf: 11.30yb - 2.15yp

  • Dydd Iau 7 Gorffennaf: 9.30yb - 12.15yp a 1.30yp - 4.15yp

  • Dydd Gwener 8 Gorffennaf: 9.30yb - 12.15yp a 1.30yp - 4.15yp

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am Ganolfan Ddydd Stryd y Parc, gan gynnwys parcio a sut i gyrraedd yno, yma: Canolfan Ddydd Stryd y Parc y Drenewydd


Mae rhaglen atgyfnerthu'r gwanwyn bellach wedi dod i ben.


Clinigau galw heibio i rai 5-11 oed

Mae’r clinigau hyn hefyd ar agor i bobl 12 oed a gafodd eu geni ar neu ar ôl 1 Medi 2009.

Gall rheini 5 - 11 oed fynychu ein clinigau galw heibio am ddos cyntaf os ydynt:

  • Wedi cofrestru gyda Meddyg Teulu ym Mhowys ac yng nghwmni rhiant/gwarcheidwad.

PEIDIWCH â mynychu os ydych wedi profi'n bositif am COVID yn ystod yr 84 diwrnod diwethaf.

Ysbyty Bronllys

  • Dydd Llun 4 Gorffennaf: 3.30yp - 6yh

  • Dydd Iau 7 Gorffennaf: 3.30yp - 6yh

Canolfan Ddydd Park Street, Y Drenewydd

  • Dydd Mawrth 5 Gorffennaf: 3.30yp - 6yh

  • Dydd Mercher 6 Gorffennaf: 3.30yp - 6yh


Nid oes angen apwyntiad.

Helpwch ni i wneud yn siŵr bod eich brechlyn mor effeithiol â phosibl a dewch i sesiwn galw heibio dim ond os:

  • NID oes gennych chi symptomau COVID-19 ar hyn o bryd
  • NID ydych yn ddifrifol wael
  • NID ydych wedi profi’n bositif am COVID-19 yn y 28 diwrnod diwethaf (os ydych dros 18 oed) neu NAD ydych wedi profi’n bositif yn yr 84 diwrnod diwethaf (os ydych o dan 18 oed)

Mae pob dos cyntaf gyda Pfizer ar hyn o bryd oni bai bod gennych angen clinigol penodol am ddewis arall yn lle Pfizer. Bydd eich brechwr yn trafod hyn gyda chi pan fyddwch yn mynychu.

Daliwch i wirio ein sianeli cyfryngau cymdeithasol am ddiweddariadau.

Mae rhagor o wybodaeth am frechu COVID-19 ym Mhowys ar gael ar ein gwefan yn https://pthb.nhs.wales/covid-vaccine


 

Cyhoeddwyd: 01/07/22

    Rhannu:
    Cyswllt: