Neidio i'r prif gynnwy

Sesiynau Galw Heibio Brechu COVID - wythnos yn dechrau 8 Awst

Rhes o frechiadau Covid 

Mae gennym sesiynau galw heibio ar gael yn ein Canolfannau Brechu Torfol wythnos yn dechrau 8 Awst. Gwiriwch y dyddiadau a chymhwysedd isod. Gallwch hefyd wirio ein tudalen galw heibio am y wybodaeth ddiweddaraf.

Clinigau galw heibio i rai 13+ oed

Gallwch fynychu ein clinigau galw heibio ar gyfer eich sesiwn atgyfnerthu cyntaf os ydych:

  • Yn 16+ oed
  • Wedi cwblhau eich cwrs cynradd (ee ail ddos) fwy na thri mis yn ôl

PEIDIWCH â mynychu am sesiwn atgyfnerthu os ydych wedi profi’n bositif am COVID-19 yn y 28 diwrnod diwethaf (os ydych yn 18 oed neu’n hŷn) neu yn yr 84 diwrnod diwethaf (os ydych yn 16-17).

 

Gallwch fynychu ein clinigau galw heibio ar gyfer eich dos cyntaf os ydych:

  • 13+ oed ( gallwch hefyd fynychu os ydych yn 12 oed ac wedi eich geni ar neu cyn 31 Awst 2009 )
  • Yng nghwmni rhiant/gwarcheidwad os 12-15 oed

    PEIDIWCH â mynychu os ydych rhwng 12-17 oed ac wedi profi’n bositif am COVID yn yr 84 diwrnod diwethaf, neu os ydych yn 18+ ac wedi profi’n bositif am COVID-19 yn y 28 diwrnod diwethaf.

     

    Gallwch fynychu ein clinigau galw heibio ar gyfer eich ail ddos os ydych:

    • Yn 18+ oed ac wedi cael eich dos Pfizer cyntaf fwy nag wyth wythnos yn ôl (mae ail ddosau AZ trwy apwyntiad).
    • NEU yn 13-17 oed ac wedi derbyn eich dos Pfizer cyntaf fwy na deuddeg wythnos yn ôl

    PEIDIWCH â mynychu os ydych rhwng 12-17 oed ac wedi profi’n bositif am COVID yn yr 84 diwrnod diwethaf, neu os ydych yn 18+ ac wedi profi’n bositif am COVID-19 yn y 28 diwrnod diwethaf.

     

    Ysbyty Bronllys

    • Dydd Llun 8 Awst: 9.30yb - 12.15yp a 1.30yp - 4.45yp

    Hen Adeilad Llywodraeth Cymru, Llandrindod

    • Dydd Mawrth 9 Awst: 9.30yb - 12.15yp a 1.30yp - 4.45yp

    Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ar sut i ddod o hyd i hen Adeilad Llywodraeth Cymru yma .

    Canolfan Ddydd Park Street, Y Drenewydd

    • Dydd Llun 8 Awst: 9.30yb - 12.15yp a 1.30yp - 4.45yp


    Mae rhaglen atgyfnerthu'r gwanwyn bellach wedi dod i ben.


    Clinigau galw heibio i rai 5-11 oed

    Mae’r clinigau hyn hefyd ar agor i bobl 12 oed a gafodd eu geni ar neu ar ôl 1 Medi 2009.

    Gall y rhai 5 - 11 oed fynychu ein clinigau galw heibio am ddos cyntaf os ydynt:

    • Wedi cofrestru gyda Meddyg Teulu ym Mhowys ac yng nghwmni rhiant/gwarcheidwad.

    PEIDIWCH â mynychu os ydych wedi profi'n bositif am COVID yn ystod yr 84 diwrnod diwethaf.

    Ysbyty Bronllys

    • Dydd Mawrth 9 Awst: 9.15yb - 12.15yp a 1.30yp - 4.45yp

    • Dydd Mercher 10 Awst: 9.15yb - 12.15yp a 1.30yp - 4.45yp

    • Dydd Iau 11 Awst: 9.15yb - 12.15yp a 1.30yp - 4.45yp

    • Dydd Gwener 12 Awst: 9.15yb - 12.15yp a 1.30yp - 4.45yp

    Hen Adeilad Llywodraeth Cymru, Llandrindod

    • Dydd Mercher 10 Awst: 9.15yb - 12.15yp a 1.30yp - 4.45yp

    • Dydd Iau 11 Awst: 9.15yb - 12.15yp a 1.30yp - 4.45yp

    • Dydd Gwener 12 Awst: 9.15yb - 12.15yp a 1.30yp - 4.45yp

    Gallwch ddod o hyd i wybodaeth ar sut i ddod o hyd i hen Adeilad Llywodraeth Cymru yma .

    Canolfan Ddydd Park Street, Y Drenewydd

    • Dydd Mawrth 9 Awst: 9.15yb - 12.15yp a 1.30yp - 4.45yp

    • Dydd Mercher 10 Awst: 9.15yb - 12.15yp a 1.30yp - 4.45yp

    • Dydd Iau 11 Awst: 9.15yb - 12.15yp a 1.30yp - 4.45yp

    • Dydd Gwener 12 Awst: 9.15yb - 12.15yp a 1.30yp - 4.45yp


    Nid oes angen apwyntiad.

    Helpwch ni i wneud yn siŵr bod eich brechlyn mor effeithiol â phosibl a dewch i sesiwn galw heibio dim ond os:

    • NID oes gennych chi symptomau COVID-19 ar hyn o bryd
    • NID ydych yn ddifrifol wael
    • NID ydych wedi profi’n bositif am COVID-19 yn y 28 diwrnod diwethaf (os ydych dros 18 oed) neu NAD ydych wedi profi’n bositif yn yr 84 diwrnod diwethaf (os ydych o dan 18 oed)

    Mae pob dos cyntaf gyda Pfizer ar hyn o bryd oni bai bod gennych angen clinigol penodol am ddewis arall yn lle Pfizer. Bydd eich brechwr yn trafod hyn gyda chi pan fyddwch yn mynychu.

    Daliwch i wirio ein sianeli cyfryngau cymdeithasol am ddiweddariadau.

    Mae rhagor o wybodaeth am frechu COVID-19 ym Mhowys ar gael ar ein gwefan yn https://pthb.nhs.wales/covid-vaccine


     

    Cyhoeddwyd: 05/08/22