Mae siaradwr Cymraeg newydd wedi ymuno â gwasanaeth iechyd meddwl digidol GIG Cymru, gan ategu'r ddarpariaeth Gymraeg sydd ar gael.
Erin Jones yw'r cefnogwr diweddaraf i ymuno â'r Gwasanaeth CBT Ar-lein.
Mae pawb sy'n cofrestru â SilverCloud® yn cael cefnogwr.
Eu rôl yw tywys defnyddwyr y gwasanaeth trwy eu rhaglen ddewisol, eu helpu gwneud y gorau o offer ac ymarferion® SilverCloud, ac ateb unrhyw gwestiynau.
Mae rhaglenni SilverCloud® yn darparu cymorth ar gyfer symptomau ysgafn i gymedrol o iselder, gorbryder, straen, problemau cwsg a mwy.
Gall unrhyw un yng Nghymru sy'n 16 oed neu'n hŷn hunanatgyfeirio at y gwasanaeth, heb weld meddyg teulu ac o gysur eu cartref.
Mae yna hefyd gymorth i bobl ifanc a myfyrwyr ac i rieni a gofalwyr sy'n cefnogi plant gorbryderus.
Yn y cyfamser, mae tair rhaglen fwyaf poblogaidd y platfform ar gyfer rheoli iselder a gorbryder ar gael yn Gymraeg.
Dywedodd Erin: "Gall siarad am sut rydych chi'n teimlo yn eich dewis iaith wneud gwahaniaeth enfawr i sut rydych chi'n cysylltu â'r deunydd ac yn mynegi eich hun."
"Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at gefnogi siaradwyr Cymraeg a Saesneg ar eu taith SilverCloud."
Gwyliwch neges Erin ar YouTube isod.
Cofrestrwch ar gyfer SilverCloud: https://nhswales.silvercloudhealth.com/signup/
Cyhoeddwyd: 08/04/2024