Mae gweithwyr iechyd meddwl proffesiynol o GIG Cymru wedi dod ynghyd i rannu eu prif awgrymiadau lles ar gyfer yr ŵyl.
Wedi'u tynnu o brofiad ar draws gwasanaethau ledled y wlad, nod yr awgrymiadau ymarferol yw helpu pobl rheoli straen, osgoi pwysau, a chanolbwyntio ar yr hyn sy'n wirioneddol bwysig adeg y Nadolig.
Mae cyfnod yr ŵyl yn aml yn cael ei bortreadu fel cyfnod o lawenydd a dathliad, ond i lawer gall ddod â straen ariannol, unigrwydd, neu deimladau o alar.
Mae staff y GIG yn gobeithio y bydd yr awgrymiadau hyn yn ein hatgoffa nad oes rhaid i'r Nadolig edrych mewn ffordd benodol, a'i bod hi'n iawn blaenoriaethu ein lles ein hunain.
Dywedodd Fionnuala Clayton, Arweinydd Prosiect ar gyfer y Gwasanaeth Therapi Gwybyddol Ymddygiadol Ar-lein, a reolir gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys: “Gall tymor yr ŵyl ddod â phwysau unigryw, ac mae’n hawdd anghofio gofalu amdanom ni ein hunain. Mae'r awgrymiadau hyn wedi'u cynllunio i helpu pobl oedi, myfyrio, a diogelu eu lles meddyliol.
“Gall cymryd camau bach, fel rhoi caniatâd i chi’ch hun orffwys neu estyn allan am gefnogaeth, wneud gwahaniaeth mawr.
“Mae eich iechyd meddwl yr un mor bwysig â’ch iechyd corfforol, ac rydym am i bawb wybod bod cymorth ar gael bob amser.”
Ymhlith yr awgrymiadau a rannwyd gan staff GIG Cymru:
Mae'r holl aelodau staff hyn gweithio mewn adrannau sy'n gallu atgyfeirio cleifion at y gwasanaeth cymorth iechyd meddwl ar-lein am ddim, SilverCloud.
Darperir y gwasanaeth yn rhad ac am ddim gan GIG Cymru ac mae hefyd ar gael trwy hunanatgyfeirio - heb weld meddyg teulu - i unrhyw un 16 oed neu hŷn sy'n delio â materion iechyd meddwl ysgafn i gymedrol gan gynnwys gorbryder, straen, iselder a chwsg.
Bydd ar gael 24/7 drwy gydol y cyfnod gwyliau.
Ewch i www.nhswales.silvercloudhealth.com i gofrestru.
Lawrlwythwch yr holl set o awgrymiadau
Cyhoeddedig: 16/12/2025