Neidio i'r prif gynnwy

Staff ysbyty yn diolch i Gynghrair y Cyfeillion yn Y Trallwng

Mae staff yn Ysbyty Coffa Victoria yn Y Trallwng wedi diolch yn fawr i Gynghrair y Cyfeillion lleol ar ôl eu buddsoddiad mawr mewn cyfleusterau yno.

Yn ystod y misoedd diwethaf, mae Cynghrair y Cyfeillion wedi talu am:

  • Ganopi electronig sydd bellach yn gorchuddio ardal allanol ger yr ystafell gofal lliniarol, gan ei gwneud yn ardal ddiddos lle gall cleifion, aelodau o'r teulu a staff ymlacio yn yr awyr iach;
  • Dodrefn gardd ar gyfer yr ardal dan orchudd hon;
  • Offer ar gyfer yr ystafell deulu yn yr ystafell gofal lliniarol;
  • Cyfleusterau newid, gan gynnwys cawodydd ar gyfer staff yr ysbyty.
  • Coeden Nadolig ac addurniadau newydd i gymryd lle'r rhai a gollwyd i ddŵr llifogydd.
  • Ac, fel bob blwyddyn, anrhegion Nadolig i'r holl gleifion. 

 

Canmolodd Rheolwr y Ward, Donna Jarman, waith Cynghrair y Cyfeillion: "Ni allwn ddiolch digon iddynt am y cyfleusterau anhygoel y maen nhw wedi'u rhoi i'r cleifion, staff ac ymwelwyr yma. Maen nhw wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn yr amgylchedd y gallwn ei gynnig i'r bobl sy'n defnyddio ein hysbyty ac mae gan fy nghydweithwyr gyfleusterau llawer gwell i'w helpu i ofalu am ein cleifion."

Mae Cynghrair y Cyfeillion yn grŵp di-dâl o wirfoddolwyr sy'n codi arian ar gyfer cyfleusterau ac offer i’r ysbyty. Y Cynghorydd Estelle Bleivas yw Cadeirydd Cynghrair Cyfeillion y Trallwng. Wrth ddisgrifio'r ardal newydd dan orchudd dywedodd: "Roedd yn wych gallu helpu ac mae'n braf iawn gweld y gallai'r cleifion lliniarol, staff ac ymwelwyr ddod y tu allan i'r adeilad a manteisio ar yr awyr iach yn yr ardal dan orchudd newydd hon."

Frances Grassi yw Ysgrifennydd Cynghrair y Cyfeillion. Fe wnaeth hi adnewyddu'r ardd hefyd ac roedd hi'n cynnwys ardal blodau gwyllt ger yr ardal dan orchudd newydd yn yr ysbyty. Ychwanegodd: "Mae Cynghrair y Cyfeillion wir yn teimlo ei bod hi'n bwysig i ni ddangos lle mae'r arian rydyn ni'n ei dderbyn yn cael ei wario. Mewn gwirionedd, mae 99 y cant o'n rhoddion gan gyn-gleifion y Trallwng; yn aml ar ffurf etifeddiaeth."

Ychwanegodd Mrs Grassi fod Cynghrair Cyfeillion ysbyty’r Trallwng hefyd yn chwilio am aelodau newydd yn ogystal â gwirfoddolwyr i helpu cynnal a chadw’r ardd yn yr ysbyty.

Dywedodd hi: "Mae'r cleifion a'r ymwelwyr yn gallu mwynhau heddwch a llonyddwch yr ardd, sydd wirioneddol yn hyrwyddo eu lles emosiynol ar adeg a all fod yn anodd. Felly, os oes unrhyw wirfoddolwyr brwdfrydig allan yna a fyddai'n gallu treulio ychydig o'u hamser i helpu ein tîm, byddem yn falch iawn o'u cael ar y bwrdd."

Gellir cysylltu â Chynghrair Cyfeillion Ysbyty'r Trallwng yn effgrassi@gmail.com neu drwy ffonio Frances ar 01938 553723.

Diwedd

 

 Llun: Gwelir Cadeirydd Cynghrair y Cyfeillion, Estelle Bleivas (chwith) gyda Rheolwr Ward Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Donna Jarman ac Ysgrifennydd Cynghrair y Cyfeillion, Frances Grassi.