Neidio i'r prif gynnwy

Ceisio eich barn ar newidiadau i Wasanaethau Strôc yn Swydd Henffordd a Swydd Gaerwrangon

Ydych chi’n defnyddio gwasanaethau ysbyty acíwt yn Henffordd? Hoffech chi fod yn rhan o’r gwaith o lywio dyfodol gwasanaeth strôc yn Henffordd a Chaerwrangon?

Mae adolygiad o'r gwasanaethau strôc yn Henffordd a Chaerwrangon ar y gweill ar hyn o bryd. Mae hyn yn cynnwys gwasanaeth a ddarperir yn Ysbyty’r Sir yn Henffordd. Maen nhw'n edrych ar y ffordd orau o ddarparu gwasanaethau strôc o safon uchel, gan gynnwys i'r cleifion maen nhw'n eu gwasanaethu ym Mhowys.

Darganfyddwch fwy a dweud eich dweud erbyn 11 Tachwedd 2022 o adran Cymryd Rhan ein gwefan .

Cyhoeddwyd 20/09/22

Rhannu:
Cyswllt: