Bydd plant ym Mhowys sy’n dioddef o epilepsi bellach yn gallu derbyn mwy o gymorth wedi i rôl newydd cael ei ddatblygu ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys.
Mae'r cyn-Nyrs Ysgol Arbenigol Ginny Bond-Scott bellach yn gweithio gyda theuluoedd i gynnig cefnogaeth ac arweiniad yn lleol. Esboniodd Ginny, y Nyrs Epilepsi Plant Arbenigol: "Rydyn ni’n (BIAP) comisiynu cefnogaeth gan ysbytai y tu allan i'n ffiniau ac er gwaethaf ymdrechion gorau'r tîm hyn, nid oes ganddynt bob amser y capasiti i ddarparu cefnogaeth leol i'n teuluoedd, sector addysg, gofal cymdeithasol neu ddarparwyr trafnidiaeth.
"Bydd fy rôl newydd yn cynnwys cynllunio gofal a hyfforddiant lle bo angen. Byddaf yn ffynhonnell leol o gefnogaeth i deuluoedd Powys, ac rwy'n edrych ymlaen at gydweithio â'r gwasanaethau wedi’u comisiynu i sicrhau bod ein teuluoedd yn cael y gofal gorau posibl.
"Dwi'n gwybod am un Mam o Bowys oedd mor bryderus am ei phlentyn ei bod hi'n arfer eistedd tu allan i'r ysgol yn ei char bob diwrnod ysgol rhag ofn iddo gael ffit, a doedd y staff ddim wedi eu hyfforddi i weinyddu meddyginiaeth achub. Nawr, gyda chreu'r swydd hon, gallaf helpu hyfforddi ysgolion i gefnogi disgyblion ag epilepsi ac, yn y pen draw, bydd rhieni'n gallu teimlo'n fwy tawel eu meddwl y bydd eu hysgolion yn gwybod beth i'w wneud."
Mae'r swydd ran-amser wedi'i lleoli yn Y Drenewydd ond mae Ginny - sy'n aelod o Gymdeithas Nyrsys Arbenigol Epilepsi - yn gweithio gyda theuluoedd ar draws y sir ac yn angerddol dros wneud gwahaniaeth ym mywydau'r plentyn/person ifanc a'u teuluoedd.
Epilepsi yw un o'r cyflyrau niwrolegol difrifol mwyaf cyffredin yn y byd. Mae'n effeithio ar tua 633,000 o bobl yn y Deyrnas Unedig. Yng Nghymru, mae gan 11 ym mhob 1000 person epilepsi. Gall hyn ddechrau ar unrhyw oedran ac mae sawl fath gwahanol. Mae rhai mathau yn para am gyfnod cyfyngedig, ond i lawer o bobl, gall epilepsi fod yn gyflwr gydol oes.
Llun: Mae Ginny Bond-Scott wedi ymgymryd â rôl Nyrs Epilepsi Plant gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.
Cyhoeddwyd Rhagfyr 3, 2024
Nodiadau: *Data gan Epilepsy Action UK epilepsy prevalence and incidence update - Epilepsy Action