Neidio i'r prif gynnwy

Swydd Wag: Aelodau Annibynnol, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Mae gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys ddwy swydd wag ar hyn o bryd i ymuno â’n Bwrdd fel Aelodau Annibynnol – Cyffredinol.

Mae Aelodau Annibynnol yn chwarae rôl hanfodol mewn llywodraethu’r bwrdd iechyd, gan ddod â’u gwybodaeth, eu profiad a’u her i helpu i sicrhau y gwneir y penderfyniadau gorau posibl ynglŷn ag iechyd a gofal iechyd pobl Powys.

Mae ceisiadau’n cau a 27ain Tachwedd 2020, ac mae gwybodaeth lawn ar y rôl a sut i ymgeisio ar gael ar wefan Penodiadau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru:

https://cymru-wales.tal.net/vx/lang-cy/mobile-0/appcentre-3/brand-2/xf-e61e605c8536/candidate/so/pm/1/pl/8/opp/6924-Independent-Member-Powys-Teaching-Health-Board/en-GB

I gael rhagor o wybodaeth am y broses ddethol, cysylltwch â penodiadaucyhoeddus@llyw.cymru

neu i gael rhagor o wybodaeth am y rolau hyn neu am Fwrdd Iechyd Addysgu Powys, cysylltwch â vivienne.harpwood@wales.nhs.uk

Buaswn yn ddiolchgar iawn pe gallech chi rannu’r wybodaeth hon ag unrhyw un yn eich rhwydwaith neu’ch cymunedau y gallai’r rolau hyn fod o ddiddordeb iddyn nhw.

Yr eiddoch yn gywir,

Yr Athro Vivienne Harpwood, Cadeirydd, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys