Fe wnaeth Jacqui Dowell, sy'n byw ym Mhowys, roi'r gorau i ysmygu gyda chymorth y Gwasanaeth Rhoi’r Gorau i Ysmygu ym Mhowys ac mae wedi bod yn ddi-fwg am 5 mis, heb unrhyw fwriad i ysmygu eto.
Cafodd Jacqui, sy'n 77 oed ac wedi bod yn ysmygu ers 15 mlynedd, ei hatgyfeirio at y tîm rhoi'r gorau i ysmygu gan ei meddyg teulu ar ôl dioddef peswch parhaus.
Dywedodd Jacqui "Roedd y sesiynau wyneb yn wyneb yn y feddygfa yn ardderchog. Roedd gan Kat, yr ymgynghorydd, feddwl agored iawn ac roedd yn hawdd mynd ati, roedd hi'n anfeirniadol ac roedd ganddi agwedd siriol."
Fel eraill yn cychwyn ar eu taith ddi-fwg, roedd Jacqui yn ansicr i ddechrau a fyddai'n llwyddiannus ond gyda chefnogaeth y tîm Rhoi’r Gorau i Ysmygu, a chyflwyno Therapi Disodli Nicotin, llwyddodd gael gwared ar ei chwantau.
Fel rhan o'r sesiynau cymorth 1:1, cynhelir prawf carbon monocsid i fesur faint o garbon monocsid sydd yn y corff. Cyn rhoi'r gorau iddi, 9 oedd darlleniad Jaqui, ond ar ôl pum mis roedd ei darlleniad wedi gostwng i 1, sef yr un sgôr â rhywun nad oedd yn ysmygu. Rhoddodd hyn y cymhelliant yr oedd ei angen ar Jacqui i gadw at ei thaith roi'r gorau iddi.
Mae rhai o'r prif fanteision y mae Jacqui wedi'u profi ers stopio’r sigaréts wedi cynnwys peidio â phesychu bob tro y bydd hi'n mynd i'r gwely, bod yn well yn ariannol ac nid yw’n diffyg anadl wrth wneud gweithgareddau fel garddio, rhywbeth y mae ganddi bellach fwy o egni i'w fwynhau. Mae hi hyd yn oed wedi llwyddo rhoi'r arian mae hi wedi'i arbed o sigaréts i wneud ei gardd hyd yn oed yn fwy hardd.
15 mlynedd yn ôl cafodd Jacqui ddiagnosis o ganser yn ei aren dde, a nawr bydd rhoi'r gorau i ysmygu yn helpu gwella ei hiechyd cyffredinol a chynnal ei swyddogaeth arennau yn fwy effeithiol.
Dywedodd Kat, Ymgynghorydd Ysmygu Powys: "Y sylwad cyntaf wnaeth Jacqui pan gerddodd i mewn i'w sesiwn oedd 'Dwi ddim eisiau rhoi'r gorau i ysmygu, dwi'n ei fwynhau! Ond fe wnâi roi cynnig arni. Dim addewidion.' -Buom yn siarad am resymau Jacqui wedyn pam, pa gefnogaeth y gallwn ei gynnig, heb ei barnu. Dechreuodd ei thaith rhoi'r gorau i ysmygu iddi hi ei hun ac mae ysmygu nawr yn rhywbeth y gorffennol. Y cyfan sydd ei angen yw'r cam cyntaf hwnnw i'n gwasanaeth Helpa Fi i Stopio a gallwn helpu eraill rhoi'r gorau i ysmygu hefyd. ‘Dyw hi byth yn rhy hwyr!”
Felly, os ydych chi wedi cael digon o ysmygu a'r holl effeithiau negyddol mae'n eu cael arnoch chi a'ch teulu, beth am ymuno â'r 15,000 o bobl yng Nghymru sy'n cael cymorth gan Helpa Fi i Stopio bob blwyddyn? Mae tîm Rhoi'r Gorau i Ysmygu Powys yma i’ch helpu ar eich taith i ddod yn ddi-fwg.
Gallwch gysylltu â Helpa Fi i Stopio | Gwasanaethau Rhoi'r Gorau i Ysmygu yng Nghymru 0800 085 2219 neu tecstiwch HMQ i 80818 neu gallwch e-bostio stopsmoking.powys@wales.nhs.uk