Teithiau Cerdded Powys dros Obaith
Mae Teithiau Cerdded dros Obaith yn digwydd ledled Powys ar gyfer pobl sydd wedi colli neu wedi cael eu heffeithio gan hunanladdiad.
Maent yn cael eu cynnal ar y cyd gan DPJ, MIND, Ponthafren a thîm Ôl-ymyrraeth ac Atal Hunanladdiad BIAP.
Os ydych chi wedi cael eich effeithio gan y materion a godwyd yn yr erthygl hon, yna mae gwybodaeth a chyngor ar gael o biap.gig.cymru/cymorth-profedigaeth.
Am gymorth iechyd meddwl brys, ffoniwch 111 a phwyswch 2