Neidio i'r prif gynnwy

Tiwtor ym Mhowys yn dod o hyd i gefnogaeth iechyd meddwl sydd wedi 'newid ei fywyd' drwy ap GIG Cymru

Testun yn Darllen: Rwy

Daeth dyn o Bowys a oedd yn cael trafferth gydag iselder a gorbryder o hyd i gymorth ar-lein a newidiodd ei fywyd, trwy wasanaeth GIG Cymru am ddim.  

Roedd y tiwtor mathemateg Iain Messenger wedi profi gorbryder ers degawdau ond dywedodd mai meddwl am ei ymddeoliad a chwalfa ei briodas oedd y gwelltyn olaf.  

Galwodd wasanaeth iechyd meddwl y GIG 111 pwyso 2 ar ôl profi pyliau o banig difrifol, hunanbarch isel a 'meddyliau tywyll'. 

Cafodd ei gyfeirio at SilverCloud Cymru, platfform ar-lein sy'n cynnig rhaglenni hunangymorth dan arweiniad ar gyfer iechyd meddwl a lles.  

Wrth siarad o amgylch Diwrnod Amser i Siarad – sgwrs iechyd meddwl fwyaf y genedl – dywedodd Iain, 58 oed: “Diflannodd yr ymdeimlad o anobaith bron yn syth. 

“Sylweddolais nad fi oedd yr unig un - roedd pobl eraill yn delio â’r un problemau a theimladau. Doeddwn i ddim yn teimlo'n unig mwyach.” 

Penderfynodd y cyn-athro, sy'n byw ger y Trallwng, yn 2024 adael yr ystafell ddosbarth a chanolbwyntio ar diwtora preifat. 

Ond cyd-ddigwyddodd cyflwyno ei rybudd yn y gwaith â chwalfa ei briodas, a dechreuodd bob dydd o'i fisoedd olaf yn y gwaith yn brwydro yn erbyn pyliau o banig. 

“Roeddwn i’n cael trafferth gyda fy mherthnasoedd agos, ac roedd gwneud penderfyniadau sylfaenol bob amser yn troi’n ddrama,” eglurodd Iain. 

“Roeddwn i’n teimlo’n ddiwerth, yn crwydro o gwmpas heb allu canolbwyntio ar ddim byd. Doeddwn i ddim hyd yn oed yn gallu darllen llyfr na gwylio'r teledu.  

“Roedd gen i rai meddyliau tywyll iawn – fy mod i’n drychineb, ac yn ddiwerth i’m teulu. Roeddwn i mewn llanast go iawn.” 

Dywedodd Iain fod ceisio cymorth drwy 111 pwyo 2 ym mis Mehefin y llynedd yn gam 'enfawr' ac yn ‘agoriad llygad’. 

“Mae'n rhywbeth sy’n gyffredin i fechgyn - rydych chi'n rhoi ffrynt ymlaen ac yn esgus eich bod chi'n iawn,” eglurodd. “Ac roeddwn i'n ystrydebol yn hynny o beth, fyddwn i ddim wir yn siarad ag unrhyw un. 

“Rydych chi'n teimlo fel yr unig berson yn y byd sydd ddim yn gallu byw bywyd, ond yna pan fyddwch chi'n ffonio 111 pwyso 2 ac maen nhw'n mynd trwy'r rhestr o gwestiynau, sy’n hawdd uniaethu ag yn syth. Rydych chi'n sylweddoli nad chi yw'r person cyntaf i fod yno.” 

Atgyfeiriwyd Iain i gael cwnsela ond cynghorwyd ef i geisio SilverCloud tra roedd yn aros am apwyntiad.  

Mae'r platfform yn cynnwys cyrsiau ar-lein sy’n seiliedig ar therapi gwybyddol ymddygiadol ar gyfer materion gan gynnwys iselder, gorbryder, cwsg gwael a straen.  

Mae’n rhad ac am ddim i unrhyw un yng Nghymru sy'n 16 oed neu'n hŷn, heb angen gweld meddyg teulu. 

“Roeddwn i’n amheus ar y dechrau,” cyfaddefodd Iain. “Doeddwn i ddim yn gallu gweld sut y byddai platfform ar-lein yn gweithio, roeddwn i'n meddwl bod angen rhywun arna i i wasgu'r botymau cywir a'm trwsio i.  

“Ond wrth fynd drwy’r rhaglen, roedd yna senarios a ddisgrifiodd yn union sut roeddwn i’n teimlo. Roeddwn i'n uniaethu â chymaint o'r hyn oedd yn cael ei ddweud.  

“Ac roeddwn i nawr yn gwneud rhywbeth i wella. Roedd cael cynllun ar waith yn golygu fy mod i wedi mynd bron yn syth o anobeithiol i obeithiol.” 

Rheolir SilverCloud Cymru gan Wasanaeth CBT Ar-lein GIG Cymru, sydd wedi'i leoli ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys. 

Mae dros 41,000 o bobl wedi defnyddio'r gwasanaeth ledled Cymru ers iddo gael ei dreialu ym Mhowys yn 2018. 

Yn ogystal â rhaglenni i oedolion, mae gan y platfform gyrsiau i fyfyrwyr a phobl ifanc, ac i rieni sy'n cefnogi plant a phobl ifanc sydd â gorbryder. 

Mae tair rhaglen fwyaf poblogaidd SilverCloud – sy'n mynd i'r afael â gorbryder ac iselder – hefyd ar gael yn y Gymraeg.  

Dywedodd rheolwr prosiect Gwasanaeth CBT Ar-lein, Fionnuala Clayton: “Mae Diwrnod Amser i Siarad yn ein hatgoffa pa mor bwysig yw siarad pan fyddwch chi'n cael trafferth – yn aml dyma'r cam cyntaf tuag at deimlo'n well.  

“Ond rydyn ni’n gwybod nad yw hynny bob amser yn hawdd, a dyna lle gall SilverCloud helpu. Mae'n cynnig cymorth hyblyg a chyfrinachol y gallwch ei gael ar unwaith, heb aros am apwyntiad gyda meddyg teulu. Rydym wrth ein bodd yn gweld y gwahaniaeth y mae wedi'i wneud i fywyd Iain.” 

Ychwanegodd Iain: “Rwy'n dal i ddefnyddio'r gwersi a ddysgais trwy SilverCloud, ac maen nhw'n fwy yn rhan o fy meddwl. 

“Rwy’n ddiolchgar – o ddydd i ddydd – am y pethau a ddysgais. Mae wedi newid fy mywyd.” 

Cofrestrwch i SilverCloud: https://nhswales.silvercloudhealth.com/signup/