Mae’n normal teimlo straen ar adegau pwysig fel cyfnodau arholiadau. Os gallwch gadw reolaeth drosto, gall ychydig o straen hyd yn oed weithio ar eich rhan, gan eich helpu i gadw'n llawn cymhelliant a'ch gwneud yn fwy effro.
Ond os daw straen yn llethol, gall gael yr effaith groes, gan lesteirio eich dysgu ac effeithio ar eich perfformiad ar ddiwrnodau arholiad.
Un cyfnod lle mae straen yn aml yn magu ei ben yw yn ystod cyfnod adolygu arholiadau. Cyn iddo fynd dros ben llestri, rhowch gynnig ar y dull hwn sydd wedi'i ysbrydoli gan domatos i helpu i'w reoli.
Mae Techneg Pomodoro wedi'i enwi ar ôl yr amserydd cegin siâp tomato, a ddefnyddiwyd gan ei ddyfeisiwr Eidalaidd. Yn syml iawn, mae'n offeryn rheoli amser sy'n rhannu'ch sesiynau astudio mewn i slotiau 25 munud â ffocws, ac yna seibiannau byr.
Gosodwch yr amserydd am 25 munud, gweithiwch heb bethau i dynnu eich sylw, yna cymerwch egwyl o 5 munud. Ar ôl pedair sesiwn, tretiwch eich hun i seibiant hirach. Mae mor hawdd â hynny.
A dyna un ffordd yn unig o gael gwared ar straen arholiadau. Dyma dair strategaeth syml arall i'ch helpu i gadw rheolaeth:
Newidiwch eich amgylchedd. Weithiau dim ond lleoliad newydd sydd ei angen arnoch chi. Ceisiwch symud eich astudiaethau i ystafell wahanol neu hyd yn oed yn yr awyr agored. Gall newid mewn golygfeydd adnewyddu eich ffocws a'ch hwyliau.
Defnyddiwch dechnegau ymlacio. Tawelwch eich nerfau ar ddiwrnod arholiad trwy roi cynnig ar anadlu bocs: ymlaciwch eich corff, anadlwch allan am gyfrif o 4, cadw'ch ysgyfaint yn wag am gyfrif o 4, anadlwch i mewn am gyfrif o 4, a daliwch eich anadl am gyfrif o 4. Ailadroddwch a theimlwch y llonyddwch.
Cadwch eich persbectif. Nid yw canlyniadau eich arholiadau yn diffinio eich llwyddiant yn y dyfodol, na chi fel person. Maen nhw'n foment mewn taith lawer hirach a all ddilyn sawl llwybr. Beth bynnag sy'n digwydd, mae yna opsiynau bob amser.
Os ydych o hyd yn cael trafferth, mae cymorth iechyd meddwl ar-lein i bobl ifanc 16-18 oed ar SilverCloud, sydd ar gael am ddim trwy GIG Cymru. Byddwch yn dod o hyd i help ar gyfer gorbryder a hwyliau isel, ac mae’r tair rhaglen yn cynnwys modiwl ochr ychwanegol ar reoli straen arholiadau, sy'n llawn cyngor ymarferol. Cofrestrwch drwy'r ddolen hon: https://nhswales.silvercloudhealth.com/signup/
Unwaith y byddwch wedi cofrestru, chwiliwch am ap SilverCloud Health ar App Store neu Google Play a lawrlwythwch i'ch ffôn.
Cyhoeddwyd: 28/04/2025