Neidio i'r prif gynnwy

Pum ffordd i gadw'n iach y gaeaf hwn

Mae’r tymor ar gyfer gwisgo dillad cynnes a dathlu hwyl yr ŵyl yma, ond felly hefyd tymor yr afiechydon a’r feirysau fel annwyd, ffliw, norofeirws, RSV a COVID-19 a all ledaenu'n hawdd a difetha cynlluniau.

Y newyddion da? Gall dim ond ychydig o arferion bach bob dydd fynd yn bell tuag at eich cadw chi a'ch anwyliaid yn ddiogel. 

Dyma bum ffordd hawdd y gallwch chi guro feirysau'r gaeaf:

  1. Golchwch eich dwylo'n rheolaidd am 15-20 eiliad gyda dŵr a sebon. Gall 4 o bob 5 salwch fel annwyd a ffliw gael eu lledaenu gan ddwylo. Mae golchi ein dwylo'n rheolaidd yn un o'r ffyrdd gorau y gallwn amddiffyn ein hunain rhag afiechydon fel annwyd a ffliw

  2. Gorchuddiwch eich ceg a'ch trwyn gyda hances bapur pan fyddwch chi'n pesychu ac yn tisian, taflwch yr hances bapur yn y bin, a golchwch eich dwylo

  3. Gadewch awyr iach i mewn pan allwch chi. Gall hyd yn oed agor ffenestri am gyfnod byr helpu i gael gwared ar aer hen sy'n cynnwys gronynnau feirysau ac atal lledaeniad afiechydon.

  4. Er ei fod yn demtasiwn mynd allan, ystyriwch aros gartref os ydych chi'n teimlo'n sâl – i roi amser i chi'ch hun wella ac i atal trosglwyddo germau 

  5. Os ydych chi'n gymwys, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n mynd i’ch apwyntiad brechu rhag y ffliw i helpu i'ch amddiffyn rhag salwch difrifol. Mae’n bosibl y byddwch hefyd yn gymwys i gael brechlynnau eraill fel COVID-19 ac RSV.

Mewn tywydd oer, cofiwch ofalu am eich iechyd a'ch llesiant drwy wisgo haenau o ddillad, cadw'ch cartref yn gynnes, a chadw mewn cysylltiad ag anwyliaid.

Gall gweithredoedd bach wneud gwahaniaeth mawr.