Mae Pete Hopgood wedi'i gadarnhau fel Prif Weithredwr dros dro Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn ystod absenoldeb salwch Hayley Thomas.
Mewn neges at staff y bwrdd iechyd yr wythnos diwethaf dywedodd Hayley Thomas:
“Roeddwn i eisiau gadael i gydweithwyr glywed yr wybodaeth hon gen i. Rwyf wedi cael diagnosis o ganser y fron yn ddiweddar ac, dros y misoedd nesaf, byddaf yn cymryd amser i ffwrdd o'r gwaith i gael triniaeth.
“Rwy'n ddiolchgar iawn bod y canser wedi'i ganfod a'm bod yn derbyn gofal rhagorol. Rydw i’n gwybod bod y sefydliad mewn dwylo diogel tra byddaf i ffwrdd.
“Un peth yr hoffwn ei ddweud yw hyn: os cewch eich gwahodd i gael sgrinio’r fron, ewch. Os byddwch yn sylwi ar rywbeth nad yw’n ymddangos yn iawn, peidiwch ag oedi cyn cael ei wirio. Fel gweithwyr gofal iechyd proffesiynol rydym yn annog ein cleifion i wneud hynny bob dydd, ac rwy’n hynod ddiolchgar fy mod wedi ceisio cyngor pan wnes i.
“Mae gan BIAP dîm gwych o bobl, ac mae gen i bob hyder y byddwch yn parhau â’r gwaith pwysig sydd o’n blaenau tra byddaf yn canolbwyntio ar fy nhriniaeth a’m hadferiad.”
07/07/2026