Disgwylir i ganolfan frechu dorfol newydd agor yn Powys yr wythnos nesaf, gyda dyfodiad y cyfleuster apwyntiad yn unig ar Faes Sioe Brenhinol Cymru yn Llanfair-ym-Muallt.
Yn ddiweddarach y mis hwn, bydd y ganolfan frechu yn y Drenewydd hefyd yn symud o'i lleoliad presennol yng Nghanolfan Ddydd Park Street i Ganolfan Hamdden Maldwyn i gynyddu nifer yr apwyntiadau sydd ar gael i drigolion Powys.
Bydd hyn yn golygu y bydd gan y sir dair canolfan frechu dorfol - Bronllys, Y Drenewydd a Llanfair-ym-Muallt - ac mae cynlluniau ar y gweill hefyd i sefydlu clinigau dan arweiniad gofal sylfaenol yn ddiweddarach y mis hwn.
Bydd y tair canolfan brechu torfol ar gael trwy apwyntiad yn unig, gyda llythyrau gwahoddiad yn cael eu hanfon at breswylwyr yn y grwpiau blaenoriaeth cenedlaethol.
Yn unol â chanllawiau cenedlaethol, mae brechu ar hyn o bryd yn cael ei flaenoriaethu ar gyfer:
Yn dilyn hyn, anfonir llythyrau gwahoddiad at bob grŵp blaenoriaeth cenedlaethol yn eu tro gan ddechrau gyda phobl 75 oed a hŷn.
Gofynnir i bobl beidio â ffonio eu meddyg teulu, fferyllfa neu ysbyty yn gofyn pryd y byddant yn cael brechlyn. Pan fydd rhywun yn un o'r grwpiau sy'n gymwys i gael y brechlyn, fe'u gwahoddir i fynychu clinig pwrpasol a fydd wedi'i sefydlu i sicrhau diogelwch cleifion a diogelwch y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol.
Daw gohebiaeth gan fyrddau iechyd lleol ac mae'r brechlyn yn rhad ac am ddim trwy'r GIG. Rhybuddir pobl i fod yn effro i sgamiau sy'n gofyn am arian neu wybodaeth bersonol.
Efallai na fydd effeithiau'r brechlynnau i'w gweld yn genedlaethol am fisoedd lawer ac mae'r cyngor ar gadw Cymru yn ddiogel yn aros yr un fath i bawb; cadw cyn lleied â phosibl o gysylltiadau ag eraill, cadw pellter 2 fetr oddi wrth eraill, golchi dwylo'n rheolaidd, gwisgo gorchudd wyneb lle bo angen ac osgoi cyffwrdd ag arwynebau y mae eraill wedi'u cyffwrdd, lle bynnag y bo hynny'n bosibl.
Mae mwy o wybodaeth am y rhaglen imiwneiddio COVID-19 genedlaethol yng Nghymru ar gael o https://phw.nhs.wales/topics/immunisation-and-vaccines/covid-19-vaccination-information/
Darperir cyngor ar grwpiau blaenoriaeth cenedlaethol ledled y DU gan y Cydbwyllgor ar frechu ac imiwneiddio: Cyd-bwyllgor ar frechu ac imiwneiddio: cyngor ar grwpiau blaenoriaeth ar gyfer brechu COVID-19, 30 Rhagfyr 2020 - GOV.UK (www.gov.uk)
Mae mwy o wybodaeth am frechu COVID-19 yn Powys ar gael o'n tudalen Brechu COVID-19 .