Neidio i'r prif gynnwy

Uned brofi COVID Ystradgynlais wedi cau dros dro oherwydd fandaliaeth - 28 Hydref

Diweddariad ar 29 Hydref: mae'r uned profi symudol wedi ailagor



Yn anffodus bu'n rhaid i uned brofi COVID Ystradgynlais gau dros dro oherwydd fandaliaeth.

Mae'r uned yn rhan o'r rhaglen brofi genedlaethol a gomisiynwyd gan yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol - yn anffodus nid yw eu system negeseuon testun ar gael ar hyn o bryd i hysbysu pobl sydd wedi'u bwcio ar gyfer profion.

Os oes gennych brawf wedi'i archebu heddiw (28 Hydref) yn Ystradgynlais, derbyniwch ein hymddiheuriadau na fydd hyn yn gallu bwrw ymlaen wrth i'r safle gael ei atgyweirio. Gallwch archebu prawf newydd ar-lein: https://gov.uk/get-coronavirus-test neu ffonio 119.

Mwy o wybodaeth am brofi ym Mhowys: Profi Coronafeirws

 

Cyhoeddwyd: 28/10/21

Rhannu:
Cyswllt: