Mae uned ddeintyddol symudol dros dro newydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys bellach yn cynnig gwasanaethau yn Ysbyty Cymunedol Bronllys a bydd yn gweithredu yno dros y misoedd nesaf.
Mae’r uned symudol yn fenter newydd gan y Bwrdd Iechyd i helpu mynd i’r afael â’r bylchau yn narpariaeth ddeintyddol y GIG yn y sir. Roedd yr uned yn gweithredu yn Y Gelli Gandryll - lleoliad cyntaf yr uned symudol dros dro.
Esboniodd Cyfarwyddwr Deintyddol y bwrdd iechyd, Warren Tolley: "Mae’r uned ddeintyddol yn cael ei staffio gan dîm ymroddedig gan gynnwys nyrs ddeintyddol gofrestredig, uwch swyddog deintyddol a gyrrwr/swyddog gweinyddol. Dangosodd ein profiad yn y Gelli Gandryll ein bod wedi gallu gwneud gwahaniaeth go iawn o ran lleihau'r galw heb ei ddiwallu am ddeintydd y GIG a nawr rydym yn gweithio i wneud yr un peth ym Mronllys.
"Fodd bynnag, nid yw’r gwasanaeth pum diwrnod yr wythnos yr un fath â phractis rheolaidd y GIG. Er mwyn i ni allu gweld cymaint o gleifion â phosibl, bydd pobl yn cael gwahoddiad i ddod i ddechrau sesiwn (naill ai bore neu brynhawn) ac yna byddant yn cael eu gweld cyn gynted â phosib."
"Rydym yn gwerthfawrogi efallai y bydd yn rhaid i rai cleifion aros ychydig, ond bydd hyn yn golygu y gallwn sicrhau bod cymaint o bobl leol yn cael eu gweld yn ystod y dydd â phosib."
Bydd cleifion yn cael eu gwahodd i'r gwasanaeth o'r rhestr aros ddeintyddol bresennol ym Mhowys ar gyfer un cwrs o driniaeth, ond bydd darpariaeth mynediad brys hefyd - ar gyfer cleifion â phoen deintyddol neu chwyddo - drwy ffonio'r llinell ffôn 111.
Bydd yr uned dros dro yn gallu darparu ystod eang o wasanaethau deintyddol craidd, ond lle mae angen triniaeth neu gymorth ychwanegol ar gleifion, efallai y bydd angen eu cyfeirio at wasanaethau eraill gan gynnwys yr adran ddeintyddol yn Ysbyty Coffa Rhyfel Sir Frycheiniog.
Esboniodd Dr Tolley y bydd y gwasanaeth ar gyfer unrhyw un sydd ar y rhestr aros ddeintyddol sydd naill ai'n byw ym Mhowys neu sy'n byw y tu allan i Bowys ond sydd wedi ei chofrestru gyda meddyg teulu ym Mhowys.
Ychwanegodd: "Mae'r bwrdd iechyd yn rhoi llawer o arian i ddarparu'r gwasanaeth hwn ond rydym hefyd angen i drigolion Powys wneud eu rhan i'n helpu ni. Gallwch chi ein helpu ni drwy gynnal iechyd y geg da trwy frwsio yn rheolaidd a thorri lawr ar fwyd a diodydd sydd llawn siwgr."
Eglurodd y bydd cleifion sy'n methu â mynychu yn cael eu dychwelyd i'r rhestr aros ddeintyddol gan gynnwys y rhai sy'n canslo apwyntiadau ar fyr rybudd.
Mae rhagor o wybodaeth am Wasanaethau Deintyddol Cymunedol y bwrdd iechyd ar gael ar-lein yn https://biap.gig.cymru/gwasanaethau/gwasanaethau-cymunedol-oedolion-a-phobl-hyn/gwasanaethau-deintyddol-cymunedol/