Neidio i'r prif gynnwy

Uned pelydr-X Ystradgynlais i ailagor ddydd Gwener - ac mae Aberhonddu bellach wedi cau dros dro.

Bydd uned pelydr-X Ysbyty Cymunedol Ystradgynlais yn ailagor ddydd Gwener yma (21ain Chwefror, 2025) ar ôl gosod offer digidol newydd.

Mae'r uned yn Ysbyty Coffa Rhyfel Aberhonddu bellach ar gau dros dro tra bod yr offer o'r radd flaenaf yn cael ei osod yno.

Tra bod y gwaith gosod hwn yn digwydd, mae cleifion sydd angen pelydrau-X yn cael eu hailgyfeirio at ysbyty cymunedol arall y bwrdd iechyd. Yn ogystal, mae ysbyty Llandrindod yn cynnig gwasanaeth cyflenwi ar y penwythnos cyfyngedig dros dro tra bod Aberhonddu ar gau dros dro.

Mae'r gwaith yn rhan o raglen gwerth £1.7m a ariennir gan Lywodraeth Cymru i osod unedau pelydr-X newydd mewn ysbytai cymunedol. Mae'r unedau newydd yn cynhyrchu delweddau yn gyflymach ac yn gliriach ac mae disgwyl i'r holl waith gosod orffen yn y Gwanwyn. 

Yn ogystal â darparu canlyniadau cyflymach a diagnosis mwy cywir, bydd y peiriannau newydd hefyd yn helpu lleihau amseroedd aros ar gyfer pelydrau-X. Bydd hyn yn ei dro yn gwella mynediad at driniaeth. Mae'r peiriannau pelydr-X newydd hyn yn defnyddio dos is o ymbelydredd na'r peiriannau presennol, sydd yn ei dro yn lleihau amlygiad ymbelydredd i gleifion.

 Dechreuodd y cam cyntaf ym mis Tachwedd ac mae'r Trallwng a Llandrindod eisoes wedi ailagor.  

Dywedodd Claire Madsen, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd a Gwyddorau Iechyd ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys: “Unwaith eto, hoffwn ddiolch i bobl am eu hamynedd wrth i ni osod yr offer newydd hwn. Nawr bod y Trallwng a Llandrindod wedi ailagor, rydym eisoes yn gweld gwasanaeth llawer gwell yno ac rwy'n siŵr y bydd hyn yn cael ei ailadrodd mewn mannau eraill wrth i ni symud drwy'r rhaglen.

Ychwanegodd Ms Madsen: "Hoffwn atgoffa pawb, tra bod yr adrannau pelydr-X hyn ar gau, na fydd gwasanaethau radioleg eraill yn yr ysbytai hyn - fel uwchsain - yn cael eu heffeithio ac y byddant yn parhau i fod ar gael. Dylwn hefyd nodi, os oes gennych mân anaf yna rydym yn parhau i'ch annog chi i ffonio'n gyntaf am gyngor clinigol. Bydd ein tîm clinigol yn gallu rhoi cyngor dros y ffôn i'ch helpu chi gael y driniaeth sydd ei hangen arnoch."

  Rhifau ffôn yr Unedau Mân Anafiadau yn yr ysbytai yw:

  • Aberhonddu: 01874 615800
  • Llandrindod: 01597 828735
  • Y Trallwng: 01938 558919 a 558931
  • Ystradgynlais: 01639 844777 

Llun: Yr offer newydd yn uned pelydr-X Llandrindod.