Bydd yr uned pelydr-X yn yr ysbyty yn Llandrindod yn ailagor ddydd Gwener yma (Chwefror 14 eg , 2025) gyda'r uned yn Ystradgynlais yn ailagor y dydd Gwener canlynol. ar ôl gosod offer newydd o'r radd flaenaf .
Ac mae'r uned pelydr-X yn ysbyty Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn Aberhonddu yn cau dros dro ddydd Iau (Chwefror 13eg) am 5pm er mwyn gosod yr offer digidol newydd yno.
Tra bod y gwaith gosod hwn yn digwydd, mae cleifion sydd angen pelydrau-X yn cael eu hailgyfeirio i un arall o ysbytai cymunedol y bwrdd iechyd.
Mae'r gwaith yn rhan o raglen gwerth £1.7m wedi'i hariannu gan Lywodraeth Cymru i osod unedau pelydr-X newydd mewn ysbytai cymunedol. Mae'r unedau newydd yn cynhyrchu delweddau cyflymach a chliriach a disgwylir i'r holl osodiadau gael eu gorffen yn y Gwanwyn.
Yn ogystal â darparu canlyniadau cyflymach a diagnosis mwy cywir, bydd y peiriannau newydd hefyd yn helpu i leihau amseroedd aros ar gyfer pelydrau-X. Bydd hyn yn ei dro yn gwella mynediad at driniaeth. Mae'r peiriannau pelydr-X newydd hefyd yn defnyddio dos is o ymbelydredd na'r peiriannau presennol, sydd yn ei dro yn lleihau'r amlygiad i ymbelydredd i gleifion.
Dechreuodd y cam cyntaf ym mis Tachwedd ac mae'r Trallwng eisoes wedi ail-agor.
Dywedodd Claire Madsen, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd, Gwyddorau Iechyd ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys: “Unwaith eto, hoffwn ddiolch i bobl am eu hamynedd wrth i ni osod yr offer newydd hwn. Nawr bod Y Trallwng wedi ail-agor , rydym eisoes yn gweld gwasanaeth llawer gwell yno ac rwy’n siŵr y bydd hyn yn cael ei ailadrodd mewn mannau eraill wrth i ni symud drwy’r rhaglen.”
Ychwanegodd Ms Madsen: “Hoffwn hefyd atgoffa pawb, pan fydd adrannau pelydr-X ar gau, na fydd gwasanaethau radioleg eraill yn yr ysbytai hyn - fel uwchsain - yn cael eu heffeithio ac y byddant yn parhau i fod ar gael. Dylwn grybwyll hefyd os oes gennych fân anaf yna rydym yn parhau i'ch annog i ffonio'n gyntaf am gyngor clinigol. Bydd ein tîm clinigol yn gallu rhoi cyngor dros y ffôn i’ch helpu i gael mynediad at y driniaeth sydd ei hangen arnoch.”
Y rhifau ffôn ar gyfer yr Unedau Mân Anafiadau mewn ysbytai yw:
Llun: 1. Yr offer newydd yn cael ei osod yn Ysbyty Coffa Llandrindod