Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad ar Wasanaethau Deintyddol y GIG yn Llandrindod

Mae Pwyllgor Gorchmynion Dros Dro’r Cyngor Deintyddol Cyffredinol wedi gwahardd Dr Sami Aouant o AKS Dental Ltd (sy’n masnachu fel Little Owl Dental yn Llandrindod).

Yn anffodus, mae hyn yn golygu bod Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn dod â'r contract ar gyfer darparu gwasanaethau deintyddol y GIG i ben ar unwaith.

Mynediad at wasanaethau deintyddol i gleifion Little Owl

Gofynnwyd i AKS Dental Ltd (sy'n masnachu fel Little Owl Dental yn Llandrindod) gysylltu â chleifion ar unwaith i'w hysbysu am gau'r practis ac i roi canllawiau iddynt ar gael mynediad at y Porth Mynediad Deintyddol i ymuno â'r rhestr aros ar gyfer triniaeth ddeintyddol y GIG.

Mae'r Porth Mynediad Deintyddol ar gael ar-lein yn biap.gig.cymru/pmd. Mae ein Llinell Gymorth Deintyddol hefyd ar gael i bobl na allant wneud cais ar-lein (01686 252808).

Yn ogystal, bydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cysylltu â chleifion a atgyfeiriwyd yn ddiweddar o'r Porth Mynediad Deintyddol i'w cynghori eu bod yn cadw eu lle ar y rhestr aros deintyddol ac i'w hail-ddyrannu i ddarparwr arall cyn gynted â phosibl.

Dylai cleifion sydd â phroblemau deintyddol brys ffonio GIG 111 Cymru (ffoniwch 111 am ddim o ffôn symudol neu linell dir). Mae problemau deintyddol brys cyffredin yn cynnwys poen dannedd difrifol lle nad yw cyffuriau lleddfu poen wedi helpu, gwaedu ar ôl tynnu dant, chwydd gweladwy yn y gwddf neu'r wyneb, neu ddannedd wedi'u bwrw allan.

Y Camau Nesaf

Rydym yn cydnabod yn llawn pa mor siomedig fydd y newyddion hwn i gleifion lleol.

Mae'r bwrdd iechyd yn gweithio'n gyflym i nodi trefniadau amgen ar gyfer gwasanaethau deintyddol y GIG yn yr ardal ond yn anffodus nid oes unrhyw atebion a fydd yn cynnig parhad gwasanaeth ar unwaith. Mae'r prosesau statudol a chytundebol i roi contract gwasanaethau deintyddol cyffredinol newydd ar waith yn cymryd peth amser a byddwn yn sicrhau eich bod yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd.