Neidio i'r prif gynnwy

Y Camau Nesaf ar Ysbyty Cymunedol Bro Ddyfi

Diolch am eich cefnogaeth barhaus i'n cynlluniau cyffrous ar gyfer ailddatblygu Ysbyty Cymunedol Bro Ddyfi.

Mae ailddatblygu'r Ysbyty yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol i Fwrdd Iechyd Addysgu Powys. Mae'r cynllun yn cynnig cyfle cyffrous i sefydlu Ysbyty Cymunedol Bro Ddyfi fel cyfleuster iechyd a lles integredig i'r gymuned leol. Bydd yn darparu sylfaen ar gyfer timau iechyd, awdurdodau lleol a thrydydd sector a fydd yn helpu'r timau hyn i weithio gyda'i gilydd mewn 'canolbwynt' cymunedol sy'n gwella mynediad at gyfleusterau iechyd a gofal cymdeithasol, lles, atal a hybu iechyd ar gyfer Machynlleth a Dyffryn Dyfi.

Fel y gwyddoch, buom yn llwyddiannus i dderbyn caniatâd cynllunio llawn y llynedd. Fodd bynnag, roedd y caniatâd hwn yn cynnwys nifer o newidiadau i'r cynllun gwreiddiol gan gynnwys gwelliannau i'r gyffordd rhwng yr ysbyty a chefnffordd yr A489.

Yn dilyn caniatâd cynllunio llawn dechreuon ni weithio ar ddiweddaru ein Achos Busnes Llawn i'w ailgyflwyno i Lywodraeth Cymru, yn ogystal ag ar gais diwygiedig am Ganiatâd Ardal Gadwraeth i adlewyrchu'r amod caniatâd cynllunio ar gyfer y gyffordd ychwanegol a'r gwaith priffyrdd.

Gyda'r gwaith hwn ar y gweill, yn anffodus roedd y byd yn wynebu heriau newydd gan Coronafeirws (COVID-19). Rydym ni a'n partneriaid masnachol wedi wynebu effaith sylweddol gan Coronafeirws, sydd yn ei dro wedi effeithio ar y cynnydd ar ailddatblygiad Ysbyty Cymunedol Bro Ddyfi.

Mae cynnydd pwysig yn parhau i gael ei wneud:

  • Sicrhawyd Willmott Dixon trwy'r fframwaith Graddfa Gwaith Mawr fel ein contractwr ar gyfer y cam gwaith cyfredol.
  • Mae ein timau contractwyr a dylunio wedi gallu ail-gychwyn, ac maent yn cymryd rhan lawn yn cefnogi'r Bwrdd Iechyd i yrru cynnydd ar y prosiect.
  • Mae cynigion dylunio manwl ar gyfer y gwaith gwella i'r gyffordd rhwng yr ysbyty a chefnffordd yr A489 wedi'u datblygu. Mae trafodaethau rheolaidd wedi digwydd gyda Phriffyrdd Llywodraeth Cymru sydd wedi bod yn gefnogol i'r cynigion hyn.
  • Mae cais diwygiedig am Ganiatâd Ardal Gadwraeth wedi'i gyflwyno i Gyngor Sir Powys. Mae hyn yn adlewyrchu rhai gwelliannau dylunio ar gyfer drychiad cefn yr ysbyty, a bydd yn cael ei ddiweddaru i adlewyrchu'r gyffordd ychwanegol a'r gwaith priffyrdd.
  • Mae'r cam dylunio manwl hwn hefyd wedi rhoi cyfle i BIAP adolygu'r cynigion a gwneud gwelliannau pellach o ran adeiladadwyedd, lleihau carbon ac mae wedi ein galluogi i ymgorffori gwersi a ddysgwyd o bandemig COVID-19
  • Mae prisiau tendr yn cael eu ceisio ar gyfer y cam adeiladu, er bod effaith COVID-19 ar y farchnad adeiladu yn effeithio ar yr amserlenni ar gyfer hyn. Rydym hefyd yn rhagweld y bydd y costau'n uwch na'r hyn a gynlluniwyd yn wreiddiol oherwydd y gwaith cyffordd a phriffyrdd ychwanegol, yr angen i'r holl waith gydymffurfio â phellter cymdeithasol, a newidiadau eraill ers yr Achos Busnes Amlinellol.

Rydym hefyd yn diweddaru'r Achos Busnes Llawn (ABLl), a fydd yn cynnwys costau diwygiedig ar gyfer y cynllun. Rydym yn rhagweld y bydd hwn yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn Hydref 2020. Yn amodol ar gymeradwyo'r achos busnes a chyllid, ein nod yw dechrau ar y safle yn gynnar yn 2021.

Rydym yn rhannu eich siom bod yr ymateb i bandemig byd-eang COVID-19 wedi effeithio ar amserlen y prosiect pwysig hwn yn ystod y misoedd diwethaf, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda chi i fwrw ymlaen â’r cynlluniau hyn.

Yr eiddoch yn gywir

Hayley Thomas, Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Rhannu:
Cyswllt: