A ydych chi wedi cofrestru gyda Meddygfa Llandrindod? neu Meddygfa Wylcwm yn Nhref-y-Clawdd?
Bydd ein canolfan frechu ar Faes Sioe Frenhinol Cymru ar gau am bythefnos o’r 22 Tachwedd ar gyfer y Ffair Gaeaf.
Yn ystod y cyfnod hwn, o bosibl y byddwch yn derbyn gwahoddiad am frechlyn atgyfnerthu yng Nghanolfan Hamdden Maldwyn yn y Drenewydd. Bydd hwn yn helpu ni i gynnig atgyfnerthiadau i gymaint o bobl â phosibl mor gyflym â phosibl.
Os gwelwch yn dda, derbyniwch eich gwahoddiad am frechlyn atgyfnerthu yng Nghanolfan Hamdden Maldwyn yn y Drenewydd os yn bosibl.
Os nad ydych yn gallu mynychu, gallwch gysylltu â’n hyb (manylion cyswllt ar y llythyr gwahoddiad) neu defnyddiwch ein ffurflen ar-lein: https://pthb.nhs.wales/coronavirus/covid-19-vaccination/information-about-mass-vaccination-centres/declining-your-mass-vaccination-centre-invitation/
Mae’r canolfan frechu COVID-19 yn y Drenewydd wedi’i leoli yn agos at ffordd osgoi A483 y Drenewydd. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar ein gwefan ar https://pthb.nhs.wales/coronavirus/covid-19-vaccination/information-about-mass-vaccination-centres/newtown-maldwyn-leisure-centre/
Mae mwy o wybodaeth am frechu COVID-19 ym Mhowys ar gael ar ein gwefan ar https://biap.gig.cymru/homepage-pop-up-cy/brechu-covid-19/
Bydd apwyntiadau ar gael eto ar Faes Sioe Frenhinol Cymru o’r 7 Rhagfyr.