Neidio i'r prif gynnwy

Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn cyhoeddi y derbynwyr dyfarniadau cyllid diweddaraf

1 Hydref 2026

Mae Shelly Higgins o Fwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi llwyddo yn rownd ddiweddaraf dyfarniadau cyllid Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru wedi dyfarnu 22 o grantiau cyllid newydd i gefnogi prosiectau ymchwil ac ymchwilwyr arloesol ledled Cymru, gan fynd i'r afael ag ystod o flaenoriaethau iechyd a gofal cymdeithasol, gyda gwerth oes cyfunol o fwy na £5.07 miliwn.

Mae cyllid wedi'i roi i ystod o brosiectau ymchwil sydd â’r nod o fynd i'r afael â blaenoriaethau iechyd a gofal cymdeithasol, tra hefyd yn cefnogi datblygiad ymchwilwyr talentog ar wahanol gamau o'u gyrfaoedd. Mae pynciau ymchwil a ariennir eleni yn cynnwys diagnosis cynnar o haint mewn beichiogrwydd ac wrth esgor, atal hunan-niweidio mewn ysgolion uwchradd, cymorth menopos trwy fferyllfeydd cymunedol, a gwella canlyniadau mewn gofal cymdeithasol plant, ymhlith eraill. Dywedodd Michael Bowdery, Pennaeth Rhaglenni Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru: "Rydym yn falch iawn o gefnogi'r garfan ddiweddaraf hon o dderbynwyr dyfarniadau, y mae eu hymchwil yn adlewyrchu ehangder, ansawdd ac uchelgais y gymuned ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Bydd y prosiectau a ariennir drwy ein Cynllun Cyllido Integredig yn cynhyrchu tystiolaeth i helpu i fynd i'r afael â heriau pwysig sy'n wynebu cleifion, y cyhoedd a'r gwasanaethau, ac yn galluogi ymchwilwyr o Gymru i gystadlu ledled y DU am ddyfarniadau dilynol mwy o faint.

"Bydd ein dyfarniadau personol yn cefnogi ymchwilwyr ar wahanol gamau o'u gyrfaoedd i ddatblygu eu sgiliau, eu harbenigedd a'u potensial arweinyddiaeth. Trwy fuddsoddi mewn ymchwil rhagorol a'r bobl y tu ôl iddo, rydym yn helpu i gryfhau amgylchedd ymchwil Cymru a gwella canlyniadau iechyd a gofal ar gyfer y dyfodol."

Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru – Dyfarnwyr personol

Dyfarniad Cymrodoriaeth Ddoethurol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru

· Shelly Higgins

Deall trosglwyddiadau i'r ysbyty o enedigaethau gartref ac unedau bydwreigiaeth annibynnol: Astudiaeth dulliau cymysg

Dyddiad dechrau: 1 Hydref 2026 (£299,600) Ewch i wefan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i weld y rhestr lawn o'r dyfarnwyr diweddaraf: Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn cyhoeddi derbynwyr y dyfarniadau cyllid diweddaraf | Health Care Research Wales