Rydym yn cydnabod efallai bod cyhoeddiad adroddiad yr Ymchwiliad Gwaed Heintiedig yn codi cwestiynau i chi, yn enwedig os cawsoch drallwysiad gwaed, cynhyrchion gwaed, neu drawsblaniad organau rhwng 1970 a 1991, neu os oes gennych anhwylder gwaed etifeddol.
Mae gwybodaeth i gleifion a'r cyhoedd a allai fod wedi derbyn trallwysiad gwaed, cynhyrchion gwaed, neu drawsblaniad organau rhwng 1970 a 1991 ar gael o wefan Gwasanaeth Gwaed Cymru.
Os oes gennych bryder am waed heintiedig, mae gwybodaeth am brofion gwaed yng Nghymru ar gael yn o wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae gwybodaeth i gleifion ag anhwylderau gwaed etifeddol ar gael gan y tîm clinigol sy'n darparu eich gofal a'ch triniaeth ar gyfer eich anhwylder gwaed etifeddol.
Mae gwybodaeth am yr Ymchwiliad Gwaed Heintiedig ar gael o wefan yr Ymchwiliad.