Pobl Canolbarth Cymru! Ydych chi eisiau sgwrsio gyda'r tîm o Ymddiriedolaeth GIG Ysbyty Amwythig a Telford am eu cynlluniau ar gyfer gwasanaethau yn yr Amwythig a Telford?
Dewch i glywed mwy am eu cynlluniau i ddarparu dau safle ysbyty ffyniannus yn Ysbyty Brenhinol yr Amwythig ac Ysbyty’r Dywysoges Frenhinol Telford a gwella gofal i bawb ledled Swydd Amwythig, Telford a Wrekin a'r canolbarth.
Bydd tîm y Rhaglen Trawsnewid Ysbytai yn cynnal sesiwn galw heibio yn ein swyddfa Rhaglen Lles Gogledd Powys yn y Drenewydd sy'n agored i gleifion a'r cyhoedd. Bydd cyfle i ofyn cwestiynau a darganfod mwy am sut y gallwch gymryd rhan wrth i gynlluniau ddatblygu.
Bydd tîm Rhaglen Trawsnewid Ysbytai yn ymweld â'r Drenewydd ddydd Mercher 13 Rhagfyr rhwng 12yh a 2.30yh yn Swyddfa Rhaglen Lles Gogledd Powys, Ystafell 1.13 Tŷ Ladywell, Y Drenewydd, SY16 1JB.
Os na allwch fynychu ond hoffech glywed mwy am y rhaglen a ffyrdd eraill o gymryd rhan, ewch i Hospitals Transformation Programme - STWICS