Neidio i'r prif gynnwy

Ymestyn trefniadau interim y Prif Weithredwr

Mae Carl Cooper, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, wedi cyhoeddi heddiw y bydd penodiad Hayley Thomas yn Brif Weithredwr dros dro y Bwrdd Iechyd yn cael ei ymestyn.

Daw hyn yn dilyn cytundeb gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr hyd at fis Mawrth 2024 tra byddant yn parhau â’u proses recriwtio ar gyfer Prif Weithredwr parhaol.

Wrth gyhoeddi’r estyniad, dywedodd Carl: “Rydym wrth ein bodd bod Hayley Thomas wedi cytuno i barhau fel Prif Weithredwr dros dro ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys yn ystod secondiad Carol.”

Mae rhagor o wybodaeth ar gael o ein cyhoeddiad cychwynnol ar 3 Mai 2023.

Mae gwybodaeth am aelodaeth y Bwrdd Iechyd ar gael o adran y Bwrdd ar ein gwefan.

 

Cyhoeddwyd: 19/07/2023

Rhannu:
Cyswllt: