Neidio i'r prif gynnwy

Ymgyrch Cam N.E.S.A.

Cofiwch y Cam N.E.S.A. Ffoniwch 999 os byddwch yn gweld unrhyw un o'r arwyddion o strôc

Mae tua 100,000 o achosion o strôc yng Nghymru, Lloegr a'r Alban bob blwyddyn. Strôc yw pedwerydd achos arweiniol unigol marwolaeth yn y DU a'r achos unigol mwyaf o anabledd cymhleth.

Mae'r acronym N.E.S.A (Nam ar yr wyneb, Estyn, Siarad, Amser) yn ffordd gofiadwy o nodi arwyddion mwyaf cyffredin strôc ac mae'n pwysleisio pwysigrwydd gweithredu'n gyflym drwy ffonio 999.

 

Pan fydd rhywun yn cael strôc, cofiwch y cam nesa.

  • Nam ar yr wyneb. A yw’r wyneb wedi syrthio ar un ochr? Ydyn nhw’n gallu gwenu?

  • Estyn. Ydyn nhw’n gallu estyn y ddwy fraich uwch eu pen a’u cadw yno?

  • Siarad. Ydyn nhw’n cael trafferth siarad?

  • Amser. Mae ymateb yn amserol yn hollbwysig. Ffoniwch 999 os ydych chi’n gweld un o’r symptomau uchod

 

I roi’r cyfle gorau i rywun, gweithredwch yn gyflym.
 

Dysgwch ragor am strôc ar wefan GIG 111 Cymru.

 

Rhyddhawyd: 27/04/2023

Rhannu:
Cyswllt: