Mae nifer yr ysmygwyr sy’n ceisio cymorth i roi’r gorau iddi ym Mhowys wedi codi’n sylweddol ers dechrau pandemig Covid-19.
Ledled Cymru, gwelwyd cynnydd o 48% yn nifer yr ysmygwyr sy’n cofrestru ar gyfer y gwasanaeth GIG am ddim, Helpa Fi i Stopio.
Mae rhagor o ysmygwyr am roi’r gorau iddi oherwydd y risg uwch o ddal y coronafeirws. Eglura Stuart Bourne, Cyfarwyddwr Iechyd y Cyhoedd:
“Mae ysmygwyr mewn mwy o berygl o ddal y coronafeirws gan fod eu hysgyfaint yn wannach ac am fod ganddyn nhw fwy o gyswllt rhwng eu dwylo a’u cegau. Ar ôl cael eu heintio, mae ysmygwr yn llawer mwy tebygol o ddioddef cymhlethdodau difrifol o’r firws.
“Drwy roi’r gorau i ysmygu, gallwch gynyddu effeithlonrwydd eich ysgyfaint a llif ocsigen i’r gwaed. Mae hyn yn bwysig oherwydd po fwyaf effeithlon yw eich ysgyfaint, y gorau fydd eich siawns o wella ar ôl coronafeirws. Rydyn ni’n gofyn i ysmygwyr gysylltu â ni i gael cymorth am ddim.”
Ar ddechrau’r cyfnod clo cyntaf yng Nghymru, addasodd y gwasanaeth Helpa Fi i Stopio, a bellach mae cyngor arbenigol ar gael dros y ffôn neu drwy gyswllt fideo. Mae’r cynllun Helpa Fi i Stopio yn dechrau gydag asesiad i edrych ar y gwahanol opsiynau sydd ar gael i weddu i anghenion ysmygwyr unigol, ac yna’n darparu sesiynau dilynol wythnosol. Mae mynediad at therapi amnewid nicotin hefyd ar gael am ddim.
Ychwanegodd Stuart: “Mae’r dystiolaeth yn dangos eich bod bedair gwaith yn fwy tebygol o roi’r gorau am byth os byddwch yn cael cymorth gan wasanaeth GIG yn hytrach na cheisio rhoi’r gorau iddi ar eich pen eich hunan.”
Mae Layla Jones yn 48 oed ac yn byw yn y Drenewydd. Fe wnaeth hi roi’r gorau i ysmygu ym mis Ionawr 2020 ar ôl gofyn am gymorth gan Helpa Fi i Stopio:
“Fe ddechreuais i ysmygu pan o’n i’n 13 oed. Do’n i ddim yn ei hoffi ar y dechrau, ond fe wnes i ddal ati achos fy mod i am fod yr un peth â fy ffrindiau,” meddai Layla. “Dw i wedi ceisio stopio sawl gwaith, ac ro’n i bob amser yn llwyddo i bara tua wythnos. Mae’r gwasanaeth Helpa Fi i Stopio wedi bod yn wych – fydden i ddim wedi gallu rhoi’r gorau i ysmygu hebddo.
“Am y tro cyntaf erioed, dw i’n cymryd fy iechyd o ddifrif. Dw i wedi dechrau mynd i redeg dair gwaith yr wythnos a dw i wedi colli pwysau. Ar ôl rhoi’r gorau iddi roedd gen i fwy o egni, felly rydych chi’n teimlo fel gwneud dewisiadau iachach.”
Mae’r ffigurau diweddaraf* yn dangos bod 15% o boblogaeth Powys yn ysmygwyr, sydd ychydig yn is na chyfartaledd Cymru gyfan, sef 17%.
Mae ymgyrch Helpwch Ni i’ch Helpu Chi Llywodraeth Cymru yn taflu goleuni ar bwysigrwydd dewis ffordd iach o fyw.
Drwy wneud nifer o ddewisiadau o ran ein ffordd o fyw, fel bwyta’n iach, bod yn egnïol, diogelu ein lles meddyliol a rhoi’r gorau i ysmygu, rydyn ni’n fwy tebygol o fyw’n hirach ac yn llai tebygol o ddatblygu afiechydon a chyflyrau iechyd difrifol.
Os hoffech ragor o wybodaeth am y gwasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu ym Mhowys, ffoniwch 0800 085 2219 neu ewch i www.helpafiistopio.cymru