Mae'r dudalen hon yn darparu gwybodaeth am adroddiadau ac ymchwiliadau allanol.
Adroddiad Arbennig a gyhoeddwyd o dan adran s28 y Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019 yn dilyn cwyn a wnaed gan Mrs A yn erbyn Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Arolygiaeth Gofal Cymru (CIW) yw'r arolygiaeth statudol o wasanaethau gofal yng Nghymru. Mae gwasanaethau gofal a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys, a gwasanaethau gofal a ddarperir trwy bartneriaethau â Chyngor Sir Powys a phartneriaid eraill, yn cael eu rheoleiddio a'u harchwilio gan CIW. Mae mwy o wybodaeth gan gynnwys adroddiadau arolygu ar gael ar eu gwefan.
Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn amddiffyn ac yn hyrwyddo hawliau pobl hŷn ledled Cymru, gan graffu a dylanwadu ar ystod eang o bolisi ac arfer i wella eu bywydau.
Mae Cynghorau Iechyd Cymunedol (CIC) yn gyrff gwarchod annibynnol statudol i gynrychioli buddiannau cleifion a'r cyhoedd yn y GIG. Maent yn ymweld ag adeiladau'r gwasanaeth iechyd ac yn darparu adroddiadau ac argymhellion. Mae Cyngor Iechyd Cymunedol ar gyfer pob ardal bwrdd iechyd yng Nghymru. Y CIC lleol yw Cyngor Iechyd Cymunedol Powys.
Mae Comisiynydd Plant Cymru yn amddiffyn ac yn hyrwyddo hawliau plant a phobl ifanc ledled Cymru, gan graffu a dylanwadu ar ystod eang o bolisi ac arfer i wella eu bywydau.
Gwybodaeth am Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, sef yr arolygiaeth annibynnol a rheoleiddiwr gofal iechyd yng Nghymru. Mae eu gwefan yn cynnwys adroddiadau o archwiliadau o wasanaethau ac adeiladau a weithredir gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys.
Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn cynnal adolygiadau annibynnol i gwynion am gyrff cyhoeddus, gan gynnwys Byrddau Iechyd. Mae eu gwefan yn cynnwys adroddiadau o ymchwiliadau i gwynion.
Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn cynnal archwiliadau allanol o gyrff cyhoeddus gan gynnwys byrddau iechyd. Mae adroddiadau o archwiliadau allanol o weithgareddau Bwrdd Iechyd Addysgu Powys ar gael ar eu gwefan.
Mae'r Comisiynydd Cymraeg yn hyrwyddo ac yn hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg. Mae gwybodaeth am adolygiadau ac ymchwiliadau gan y Comisiynydd Cymraeg ar gael ar wefan y Comisiynydd.
Mae'r adran hon yn cynnwys dolenni i adroddiadau penodol (er enghraifft, lle nad yw'r rhain ar gael o'r gwefannau uchod, neu lle mae dyletswyddau penodol i gyhoeddi'r wybodaeth ar ein gwefan).