Mae Powys yn cynnig amgylchedd gwaith unigryw a grymusol sy'n wahanol i unrhyw fwrdd iechyd arall yng Nghymru. Nid oes gennym ysbyty cyffredinol ardal ym Mhowys, ond mae gennym rwydwaith o ysbytai cymunedol, timau gofal sylfaenol lleol, ymgynghorwyr ac arbenigwyr ymweld, sefydliadau gofal cymdeithasol a gwirfoddol sydd i gyd yn gweithio gyda'i gilydd i ddarparu ystod eang o wasanaethau iechyd yn ein cymunedau lleol.
Rydym hefyd yn comisiynu gwasanaethau gan Fyrddau Iechyd Cymru eraill ac Ymddiriedolaethau GIG Lloegr, y darperir llawer ohonynt ym Mhowys, gyda'r gweddill yn cael ei ddarparu mewn ysbytai cyfagos yng Nghymru a Lloegr. Rydym i raddau helaeth yn sefydliad a arweinir gan ofal sylfaenol a chymunedol, sydd wedi ymrwymo i ddod â gofal yn nes adref i bobl ym Mhowys, ond sydd â hanes cryf o gomisiynu a gweithio mewn partneriaeth.
Yn gorchuddio tua chwarter Cymru, neu bron i 2000 milltir sgwâr, Powys yw'r sir fwyaf yng Nghymru: o Ystradgynlais a Chrug Hywel yn ne'r sir i Machynlleth a Llanfyllin yng ngogledd y sir.
Mae gennym 9 ysbyty cymunedol, a chanolfan iechyd a gofal cymdeithasol integredig yn Llanfair-ym-muallt, yn ogystal â chlinigau a gwasanaethau ledled y sir.
Rydym yn gweithio'n agos gyda gwasanaethau Gofal Sylfaenol ym Mhowys
Dyma rai o'r swyddi y gallech eu gwneud ym Mhowys: