Er bod yr haf y tu ôl i ni, mae'r risg o wenwyno carbon monocsid (CO) yn dal i fod yn uchel iawn wrth wersylla. Ni allwch ei weld, ei flasu na'i arogli, ond gall CO ladd yn gyflym heb rybudd. Bu nifer o farwolaethau trasig o wenwyn carbon monocsid yn gysylltiedig â'r defnydd o farbeciws o fewn pebyll, adlenni, carafannau a mannau caeedig eraill. Dysgwch sut i gadw'ch hun a'ch teulu yn ddiogel.
Mae buddsoddiad o £1.7 miliwn mewn offer pelydr-X digidol newydd wedi’i gyhoeddi gan Fwrdd Iechyd Addysgu Powys. Wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru, bydd yr offer newydd yn cynhyrchu delweddau cyflymach a chliriach nag erioed o'r blaen, gan helpu i wella diagnosteg i bobl Powys.
Mae disgwyl i ragor o waith gwella hanfodol ddechrau yn Ysbyty Coffa Llandrindod diolch i £3m o gyllid gan Lywodraeth Cymru.
Heddiw (10 Hydref 2024) mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys wedi cymeradwyo cynigion ar gyfer newidiadau dros dro i rai gwasanaethau mân anafiadau a gwasanaethau ar y wardiau yn y sir.
Mae recriwtiaid diweddaraf ysbyty'r Trallwng wedi bod yn ymgartrefu'n dda ar ôl dechrau ar eu swyddi nyrsys cofrestredig newydd. Mae gan Bowys nifer o garfannau nyrsio sydd wedi’u haddysgu’n rhyngwladol sydd wedi ymuno â’r bwrdd iechyd i ddarparu gofal nyrsio i bobl leol.
Mae'n hawdd gadael i les gilio i’r cefndir ymhlith holl bwysau’r gweithle, ond mae hunanofal yn hanfodol i ni ffynnu yn ein bywydau personol a phroffesiynol.
Mae Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd eleni yn atgof allweddol i gyflogwyr gefnogi lles staff – nid cam tosturiol yn unig ydyw; mae'n hanfodol ar gyfer creu amgylchedd gwaith iach a chynhyrchiol.
Gall trigolion Powys nawr gofrestru ar-lein i ymuno â rhestr aros ar gyfer triniaeth Ddeintyddol y GIG.
Wrth i ni agosáu at yr hydref a'r gaeaf, mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn atgoffa pawb fod brechiadau yn gallu helpu i'ch diogelu chi a'ch teulu rhag salwch cyffredin y gaeaf hwn a chefnogi'r GIG i ganolbwyntio ar y bobl sydd fwyaf angen y gofal.
Mae cwympiadau yn un o brif achosion toriad esgyrn brau, felly rydyn ni am godi ymwybyddiaeth o rai o'r ffactorau risg ar gyfer osteoporosis yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Cwympiadau 2024.
Sawl gwaith ydych chi wedi mynd ar goll i lawr twll diddiwedd y cyfryngau cymdeithasol? Ym myd digidol heddiw, mae'n hawdd colli'ch ffordd a mynd yn sownd yn y sgrôl, ac er y gall cyfryngau cymdeithasol ein helpu gwneud cysylltiadau gwych, gall hefyd effeithio'n negyddol ar ein hiechyd meddwl.
Bydd trigolion ardal y Gelli Gandryll sydd ar restr aros ddeintyddol y GIG yn cael mynediad at wasanaeth deintyddol cymunedol newydd y GIG dros dro am y tri mis nesaf.
Y Camau Nesaf ar Ymgysylltu Newidiadau Dros Dro i Wasanaethau
Bellach mae cleifion yn ne'r sir yn gallu cael profion o swyddogaeth lawn yr ysgyfaint yn lleol diolch i osod darn newydd o offer profi.
Dyddiad cau 27 Medi 2024
Gwasanaeth cyfnewid fideo yw Sign Live sy'n caniatáu i ddefnyddwyr ein gwasanaethau ein ffonio a chael eu cysylltu â dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain cymwys a chofrestredig, a fydd wedyn yn trosglwyddo'r wybodaeth dros y ffôn i'n staff.
Yn fuan, bydd cleifion ym Mhowys yn cael y cyfle i gymryd rhan yn y prosiect arloesol hwn i alluogi cleifion â dirywiad macwlaidd i fonitro eu golwg ar eu ffonau clyfar eu hunain, rhwng apwyntiadau cleifion allanol wedi'u trefnu. Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn gyffrous i fod yn gweithio ar gydweithrediad arloesol gydag OKKO Health, arweinydd mewn technoleg iechyd llygaid.
Bydd ein CCB yn cael ei gynnal rhwng 2.00yp a 3.00yp ar 11 Medi 2024 yn rhithwir trwy Microsoft Teams.