Mae crefftwyr o ogledd, canolbarth a de Powys wedi bod yn dathlu Pen-blwydd y GIG yn 75 oed trwy wau a chrosio 'hetiau blwch post'.
Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn falch o fod wedi partneru â Phrifysgol Bangor a Choleg Llandrillo i gynnig rhaglen radd nyrsio o bell, i'w chwblhau tra hefyd yn gweithio fel Gweithiwr Cymorth Gofal Iechyd yn y bwrdd iechyd.
Dyma'r rhifyn cyntaf o gylchlythyr cymunedol rheolaidd ar gyfer pobl ardal Llanfair Caereinion a ddyluniwyd i roi’r wybodaeth ddiweddaraf ar ddatblygiad y Ganolfan Gofal Sylfaenol arfaethedig yn y dref.
Mae Fferyllydd Clinigol Powys, Rafael Baptista, y mae ei waith i ddatblygu a gweithredu Offeryn Cofnodi Ymyriadau Fferyllol xPIRT wedi ennill Gwobr Arloesedd ac Arfer Gorau Cymdeithas Ysbytai Cymunedol y DU gyfan.
Yng ngwobrau Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru 2023 a gynhaliwyd yn Neuadd y Ddinas, Caerdydd ddydd Iau 29 Mehefin, cafodd dwy nyrs o Bowys eu cydnabod am eu gwaith rhagorol.
Dywedodd Cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, Mererid Bowley: "Mae'r haf yn amser gwych i dreulio gyda theulu a ffrindiau. P'un a ydyn ni'n mynd i ŵyl gyda ffrindiau, mynd allan am y diwrnod, teithio dramor neu fwynhau “staycation”, mae yna rai pethau syml y gallwn ni i gyd eu gwneud i gadw'n iach a chadw ein cynlluniau haf ar y trywydd iawn."
Oes gennych chi, neu rywun rydych chi’n adnabod, gyflwr ar yr ysgyfaint?Ymunwch â ni ar y 6ed o Orffennaf 2023, o 10.30yb i fynd am dro hamddenol o amgylch llyn Llandrindod.
Fe'ch gwahoddir i ddigwyddiad Holi ac Ateb ar-lein rhwng 5.15pm a 6pm ddydd Mercher 5 Gorffennaf.
Darllenwch y cylchlythyr diweddaraf ar ailddatblygu Ysbyty Bro Ddyfi ar ein gwefan.
Mae Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys GIG Cymru wedi cyhoeddi wythfed papur briffio ar gyfer rhanddeiliaid ar ddatblygu gwasanaethau Ambiwlans Awyr,
Mae cleifion ym Mro Ddyfi yn elwa o well cyfleusterau gofal iechyd diolch i adnewyddiad gwerth £15m yn Ysbyty Bro Ddyfi ym Machynlleth a agorwyd yn swyddogol gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan, ddydd Iau 25 Mai 2023.
Derbyniwyd y penderfyniad gan gyfarfod o’r Bwrdd ar 24 Mai 2023.
Bydd cyfarfod cyhoeddus ar 24 Mai yn trafod y cais gan Feddygfa Grŵp Crughywel i gau Meddygfa Cangen Belmont
Mae cleifion nawr yn dechrau defnyddio cyfleusterau newydd eu gwedd yn Ysbyty Cymunedol Bro Ddyfi, gyda diolch i gyllid £15m gan Lywodraeth Cymru.
Mae dyddiadau pellach wedi eu cyhoeddi fel rhan o'r broses ymgysylltu cyhoeddus ffurfiol am EMRTS Cymru sy'n gweithio mewn partneriaeth ag Elusen Ambiwlans Awyr Cymru i ddarparu'r gwasanaeth ambiwlans awyr yng Nghymru.
Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn datblygu Strategaeth Greadigol Iechyd a Lles Powys gyda'r nod o ymgorffori profiadau celfyddydau, creadigrwydd ac ecotherapi (e.e. garddio, crefftau awyr agored) i wasanaethau iechyd er budd pobl Powys, i gefnogi iechyd meddwl, iechyd corfforol a lles.
Heddiw mae Carl Cooper, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, wedi cyhoeddi penodiad Hayley Thomas yn Brif Weithredwr dros dro y Bwrdd Iechyd.
Mae tua 100,000 o achosion o strôc yng Nghymru, Lloegr a'r Alban bob blwyddyn. Strôc yw pedwerydd achos arweiniol unigol marwolaeth yn y DU a'r achos unigol mwyaf o anabledd cymhleth.
Mae corff newydd ac annibynnol fydd yn cryfhau grym a dylanwad lleisiau pobl wrth siapio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru wedi lansio.
Mae Llais yn disodli gwaith saith Cyngor Iechyd Cymuned Cymru sydd wedi cefnogi buddiannau pobl sy'n defnyddio gwasanaethau'r GIG am bron i hanner canrif.