Neidio i'r prif gynnwy

Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn bwrw ymlaen â chynlluniau ar gyfer Academi Iechyd a Gofal Powys

Basil Webb Hall

Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Powys yn bwrw ymlaen â chynlluniau ar gyfer academi iechyd a gofal newydd ar gyfer y sir.

Bydd ei gampws cyntaf yn Neuadd Basil Webb, ar safle Ysbyty Bronllys, yn agor yn yr Hydref, ac mae cynlluniau i ddatblygu cyfleusterau tebyg ar draws y sir dros y ddwy flynedd nesaf.

Bydd Academi Iechyd a Gofal Powys yn cynnig cyfleoedd dysgu wyneb yn wyneb a    digidol drwy bedair ysgol – Ysgol Ymchwil, Datblygu ac Arloesi, Ysgol Arweinyddiaeth, Ysgol Gwirfoddolwyr a Gofalwyr, ac Ysgol Addysg a Hyfforddiant Proffesiynol a Chlinigol – i weithwyr yn y sector iechyd a gofal, rhai sy'n chwilio am yrfa yn y sector a gwirfoddolwyr a gofalwyr di-dâl sy'n cefnogi'r sector.

Oedolion ifanc sy’n cael cynnig lleoliadau gwaith gyda Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, adran Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor Sir a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys fydd y grwp cyntaf o ddysgwyr, a hynny trwy Gynllun Kickstart sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU.

Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Powys yn cynnwys amrywiaeth o gyrff cyhoeddus a chynrychiolwyr eraill, gan gynnwys Cyngor Sir Powys, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (PTHB) a Chymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO) sy'n gweithio gyda'i gilydd i wella iechyd a llesiant trigolion y sir.

Dywedodd Julie Rowles, Cyfarwyddwr Gweithlu a Datblygu Sefydliadol PTHB: "Ein huchelgais ar gyfer yr academi yw iddo ddod yn ddarparwr enghreifftiol ym meysydd addysg, hyfforddiant a datblygiad iechyd a gofal gwledig. Rydym am i'r sector iechyd a gofal ym Mhowys fod yn sector o ddewis i'r rhai sy'n awyddus i uwchsgilio a/neu ddechrau ar yrfa newydd. Rydym am i bobl ddod i Bowys i ddatblygu a chynyddu eu sgiliau a mwynhau gyrfa yma.

"Y gwaith hwn, sy'n digwydd ar gampws Bronllys ar hyn o bryd, yw'r cyntaf o nifer o fannau ffisegol blaenllaw a fydd yn dod i’r amlwg yn y blynyddoedd nesaf wrth i ni ddatblygu Academi Iechyd a Gofal Powys."

Ychwanegodd y Cynghorydd Myfanwy Alexander, Aelod Portffolio Cabinet Cyngor Sir Powys ar gyfer Gofal Cymdeithasol i Oedolion a Rhaglen Lesiant Gogledd Powys: "Wrth i ni ym Mhowys wella o COVID 19, nid yw lles ein trigolion erioed wedi bod yn fwy arwyddocaol. Mae angen sector iechyd a gofal ffyniannus arnom i sicrhau hyn, yn ogystal â chyfleoedd gyrfa hanfodol.

"Mae'r Academi Iechyd a Gofal yn gyfle gwych i bobl leol ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i adeiladu gyrfaoedd llwyddiannus yn y sector. Rwy'n arbennig o falch o weld y cyfleoedd a ddarperir i ofalwyr droi eu profiad gwerthfawr yn gyfleoedd gyrfa."

Ychwanegodd Carl Cooper, Prif Weithredwr PAVO: "Rwy'n llawn cyffro iawn am y cynlluniau ar gyfer Ysgol Gwirfoddolwyr a Gofalwyr o fewn yr Academi Iechyd a Gofal. Mae'n gydnabyddiaeth bwysig o'r rôl bwysig y mae gwirfoddolwyr, a gofalwyr di-dâl yn ei chwarae yng ngofal a chymorth pobl a chymunedau.

"Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod gwirfoddolwyr a gofalwyr ym Mhowys yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt ac yn awyddus i ddarparu eu gwasanaethau hanfodol."

Mae Academi Iechyd a Gofal Powys yn rhan o ymateb ledled Cymru i gynyddu mynediad at addysg a hyfforddiant ar draws y sector iechyd a gofal ac mae'n cael ei datblygu gyda'r bwriad mai hwn fydd darparwr craidd y sir erbyn 2027.

I gael rhagor o wybodaeth am Academi Iechyd a Gofal Powys a'i gwaith e-bost Anna-marie.lote-jones@wales.nhs.uk neu Louise.k.richards@wales.nhs.uk

 

Rhannu:
Cyswllt: