Neidio i'r prif gynnwy

Adolygiad Annibynnol o Wasanaethau Mamolaeth yn Ymddiriedolaeth GIG Ysbyty Amwythig a Thelford

Heddiw (10 Rhagfyr 2020) bydd Donna Ockenden yn cyhoeddi'r adroddiad cyntaf ar wasanaethau mamolaeth yn Ymddiriedolaeth GIG Ysbyty Amwythig a Thelford (SaTH).

Mae'r adroddiad ar gael o wefan yr adolygiad annibynnol ar www.ockendenmaternityreview.org.uk

Mae'r adroddiad yn amlwg yn gwneud darllen anodd iawn. Yn bwysig, mae'n nodi cyfres o Weithredoedd Lleol ar gyfer Dysgu, a Chamau Gweithredu ar Unwaith a Hanfodol ar gyfer yr Ymddiriedolaeth a gwasanaethau mamolaeth ledled Lloegr.

Mae'r Ymddiriedolaeth wedi ymrwymo i weithredu'r holl gamau gweithredu yn yr adroddiad heddiw. Maent wedi rhoi eu sicrwydd i fenywod a theuluoedd sy'n defnyddio eu gwasanaethau, os byddant yn codi unrhyw bryderon am eu gofal, bydd rhywun yn gwrando arnynt ac yn cymryd camau.

Rydym yn edrych ymlaen at wneud cynnydd pellach, er mwyn sicrhau bod profiad a diogelwch y gwasanaethau hyn yn cwrdd â'r safonau y mae pobl Powys yn eu disgwyl ac yn eu haeddu.

Yma ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda Donna Ockenden, gyda'r Ymddiriedolaeth, gyda chomisiynwyr iechyd yn Lloegr, y Comisiwn Ansawdd Gofal, GIG Lloegr / Gwella a phartneriaid eraill i sicrhau bod gwasanaethau yn yr Ymddiriedolaeth yn parhau i wella.

Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda phartneriaid ar gamau nesaf yr adolygiad hwn, a disgwylir yr adroddiad llawn yn 2021.

Hoffwn ddiolch i bob menyw a theulu o Bowys sydd wedi rhannu eu profiadau fel rhan o'r adolygiad hwn.

Mae'n hanfodol bod lleisiau pobl leol yn parhau i gael eu clywed. Os hoffech rannu eich profiadau o ofal a thriniaeth yn Ymddiriedolaeth GIG Ysbyty Amwythig a Thelford gallwch wneud hyn mewn sawl ffordd:

Rhannu profiad yn uniongyrchol gyda'r Ymddiriedolaeth trwy eu Gwasanaeth Cyngor a Chyswllt Cleifion:

  • trwy e-bost i sath.pals@nhs.net
  • dros y ffôn ar 0800 783 0057, neu
  • trwy'r post i'r Gwasanaeth Cyngor a Chyswllt Cleifion, Ymddiriedolaeth GIG Ysbyty Amwythig a Thelford, Ysbyty Brenhinol Amwythig, Mytton Oak Road, Amwythig SY3 8XQ

Rhannu profiad gyda'n tîm Profiad Cleifion ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys:

  • trwy e-bost i bryderon.qualityandsafety.pow@wales.nhs.uk
  • dros y ffôn ar 01874 712967 neu 712699

Rhannu profiad gyda'r Cyngor Iechyd Cymunedol lleol, sy'n darparu gwasanaeth eiriolaeth annibynnol, rhad ac am ddim, dan arweiniad cleientiaid:

  • Trwy e-bost i enquiries.powyschc@waleschc.org.uk
  • Yn y post i Gyngor Iechyd Cymunedol Powys, Ystafell 204, Ladywell House, Y Drenewydd, SY16 1JB

Carol Shillabeer Prif Weithredwr, Bwrdd Iechyd Addysgu Powys

Rhannu:
Cyswllt: