Neidio i'r prif gynnwy

Agoriad maes parcio ysbyty Aberhonddu

Torri

Yn gynharach yn y mis agorwyd y maes parcio staff newydd yn ysbyty Coffa Rhyfel Sir Frycheiniog yn swyddogol.

Agorodd y Fonesig Shân Legge-Bourke, y rhoddodd ei thad-cu y tir ar gyfer yr ysbyty a'i agor ym 1928, y maes parcio yn swyddogol ddydd Mercher y 13eg o Fedi. Y Fonesig Shân hefyd yw llywydd Cynghrair Cyfeillion Ysbyty Aberhonddu.

Mae'r maes parcio staff newydd, sydd ychydig uwchben yr ysbyty, yn darparu 70 lle parcio ychwanegol, gan leddfu'r pwysau ar y prif faes parcio a chaniatáu mwy o le i gleifion sy'n defnyddio'r ysbyty.

Mae'r maes parcio yn cynnwys nifer o bwyntiau gwefru ceir trydan, goleuadau solar a nifer o fanteision amgylcheddol ac ecolegol ychwanegol.

Talwyd am y gwaith gyda chyfuniad o gyllid Llywodraeth Cymru ynghyd â £500,000 o roddion hael gan nifer o grwpiau elusennol gan gynnwys; Cronfa Goffa Jack ac Iris Lloyd, Cynghrair y Cyfeillion Aberhonddu a Sefydliad Moondance.

Croesawodd Dr Carl Cooper, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys y Fonesig Shân i agor y cyfleuster gan ddweud

"Roeddwn wrth fy modd cael bod gyda'r Fonesig Shân Legge-Bourke ac eraill sydd wedi gweithio ar ddarparu'r maes parcio staff newydd yn Ysbyty Aberhonddu. Mae hon yn enghraifft wych o'r gymuned leol yn gweithio law yn llaw â’r bwrdd iechyd mewn ffordd sy'n gwella profiad a mynediad cleifion. Trwy gael maes parcio staff pwrpasol, mae'r maes parcio isaf ar gael yn fwy i gleifion ac ymwelwyr. Mae'r datblygiad hefyd wedi sicrhau ein bod yn cefnogi cynaliadwyedd amgylcheddol trwy osod goleuadau solar, bocsys ystlumod, ysgolion amffibiaid ac ati. Ar ran y bwrdd, hoffaf ddiolch o galon i Gynghrair y Cyfeillion, Ymddiriedolaeth Goffa Iris a Jack Lloyd, Sefydliad Moondance, Llywodraeth Cymru ynghyd â'r dylunwyr a'r contractwyr am y cydweithrediad trawiadol hwn."

 

Cyhoeddwyd: 29/09/2023

Rhannu:
Cyswllt: