Neidio i'r prif gynnwy

Allech chi helpu lleddfu'r pwysau fel gwirfoddolwr cymorth mewn ysbyty?

Claf oedrannus mewn ysbyty gyda gwirfoddolwr

Mae angen gwirfoddolwyr i helpu i gefnogi cleifion mewn pum ysbyty ym Mhowys ym Mronllys, Y Trallwng, Llandrindod, Machynlleth a Llanidloes.

Mae Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO) yn recriwtio gwirfoddolwyr ar ran Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (PTHB) i fod yn gyfeillion, ysgogwyr a chynorthwywyr cyffredinol a all helpu i wella cyfnod claf mewn ysbyty neu ymweliad.

Ni fydd disgwyl i wirfoddolwyr mewn ysbytai i fod yn eiriolwyr neu gwnselwyr nac i wneud unrhyw driniaeth glinigol, rhoi gofal personol na feddyginiaeth. Ond y gobaith yw y byddant yn gallu helpu lleddfu’r llwyth gwaith sy’n wynebu staff ar hyn o bryd ac os yw’n llwyddiannus gellir ei ddefnyddio ym mhob un o ysbytai’r sir.

Os oes gennych ddiddordeb mewn helpu i lenwi un o'r rolau hyn, a'ch bod yn gallu cynnig gofal a chymdeimlad, cydweithrediad a sgiliau cyfathrebu da, gallwch gael rhagor o wybodaeth ar wefan Gwirfoddoli Cymru neu ffoniwch Ganolfan Gwirfoddoli Powys ar: 01597 822191.

Gallai gweithgareddau gyda chleifion gynnwys:

  • Darparu gwasanaeth darllen/ysgrifennu lle bo hynny'n briodol.
  • Cymryd rhan mewn sgyrsiau cyffredinol gyda chleifion.
  • Annog a chefnogi cleifion mewn gweithgareddau fel darllen, edrych ar ffotograffau, gwylio fideos neu wrando ar sain.
  • Cynorthwyo cleifion gyda thasgau dyddiol e.e. gwneud dewisiadau bwyd, atgoffa i wneud ymarferion ffisio neu gynllunio gweithgareddau ar gyfer y dydd
  • Helpu cleifion i barhau i fod yn egnïol yn feddyliol ac yn gorfforol

Fel rhan o'r broses recriwtio bydd angen i wirfoddolwyr:

  • Cael sgwrs anffurfiol â Chanolfan Gwirfoddoli Powys ynghylch pam eu bod nhw’n addas ar gyfer y rôl hon
  • Pasio asesiad risg gweithle COVID-19
  • Cael gwiriad DBS manwl
  • Cwblhau cyfres o gyrsiau hyfforddi gorfodol sylfaenol

Dywedodd Claire Madsen, Cyfarwyddwr Therapiau a Gwyddor Iechyd yn BIAB: “Ni fydd y gwirfoddolwyr yn cymryd rolau meddygon, nyrsys neu gynorthwywyr gofal iechyd, ond gallent helpu i leddfu ychydig o’r pwysau sy’n wynebu ein staff ar hyn o bryd a helpu i wneud cyfnod mewn ysbyty yn llawer mwy pleserus i’n cleifion.

"Gallent hefyd rhoi help i gleifion wella trwy gadw ein cleifion yn egnïol, wedi’u hysgogi ac yn hapus."

Ychwanegodd Claire Sterry, Uwch Swyddog PAVO ar gyfer Datblygu’r Drydedd Sector: "Os ydych chi'n garedig ac yn dosturiol, yn hyderus ac yn gallu rhoi anogaeth, yn meddu ar sgiliau cyfathrebu da, yn gallu gweithio fel rhan o dîm ac yn deall yr angen am ddisgresiwn a chyfrinachedd, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.

"Rydym hefyd yn awyddus i recriwtio gwirfoddolwyr sydd wedi cwblhau hyfforddiant 'Cyfeillion Dementia' neu hyfforddiant SENSE ar nam ar y synhwyrau."

Mae PAVO a BIAP yn cydweithio ar y prosiect hwn fel rhan o Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Powys, sy'n cynnwys amrywiaeth o gyrff cyhoeddus a chynrychiolwyr eraill, gan gynnwys Cyngor Sir Powys, sy'n gweithio gyda'i gilydd i wella iechyd a lles trigolion y sir.

Rhannu:
Cyswllt: