Neidio i'r prif gynnwy

Amser i Siarad: Gwasanaeth therapi ar-lein yn helpu pobl i reoli eu hiechyd meddwl yn ystod cyfnod clo'r gaeaf

Mae gwasanaeth ar-lein a lansiwyd ym Mhowys sy'n rhoi mynediad i bobl at therapi ar-lein heb orfod mynd drwy eu meddyg teulu, wedi helpu miloedd o bobl sy'n agored i niwed i gymryd camau cadarnhaol i wella eu hiechyd meddwl yn ystod y pandemig.

Mae dros 4,800 o bobl wedi cofrestru ar gyfer Therapi Ymddygiad Gwybyddol Ar-lein SilverCloud ers ei lansio ledled Cymru ym mis Medi.

 

Mae'r prosiect yn un enghraifft sy'n cael ei hamlygu gan Lywodraeth Cymru yn ei hymgyrch Helpwch Ni i’ch Helpu Chi i ddangos sut y gall hunanofal a gwneud newidiadau bach helpu pobl i ddiogelu a gwella eu lles meddyliol yn ystod y cyfnod clo parhaus.

Gall pobl 16 oed a throsodd sy'n profi gorbryder, iselder neu straen ysgafn i gymedrol, gofrestru ar gyfer cwrs 12 wythnos SilverCloud sy'n cynnwys gweithgareddau ac offer rhyngweithiol i helpu defnyddwyr i reoli eu lles seicolegol gyda mwy o hyder, gan ddefnyddio Therapi Ymddygiad Gwybyddol (CBT).

Cefnogir y gwasanaeth hunangyfeirio gan dîm o seicolegwyr a chydlynwyr therapi ymddygiad gwybyddol ar-lein, gan gynnwys Fionnuala Clayton, Cynorthwy-ydd Seicolegol a Chydlynydd CBT Clinigol Ar-lein ar gyfer SilverCloud Cymru.

Meddai Fionnuala: "Rydyn ni’n gwybod bod llawer o bobl ledled Powys yn ei chael hi'n anodd i reoli eu hiechyd meddwl yn ystod y cyfnod clo diweddaraf ond mae gwneud cysylltiadau â'r byd y tu allan a dysgu technegau newydd i reoli sut rydych chi'n teimlo, wir yn gallu helpu.

"Mae CBT a CBT cyfrifiadurol yn ddull sy'n seiliedig ar dystiolaeth a phrofwyd ei fod yn helpu i reoli profiadau pobl o orbryder ac iselder. Mae'r ffaith bod SilverCloud yn seiliedig ar ymyriadau CBT yn caniatáu i ddefnyddwyr ganolbwyntio ar eu problemau 'y funud hon’ ac yn cynnig ffyrdd ymarferol o fynd i'r afael â phroblemau a all deimlo'n llethol drwy edrych ar y berthynas rhwng ein meddyliau, ein teimladau, ein synhwyrau corfforol a'n hymddygiad.

"Rydyn ni i gyd yn ymwybodol o'r pwysau cynyddol ar wasanaethau meddygon teulu o ganlyniad i bandemig COVID-19 ond un o'r pethau gwych am SilverCloud yw ei fod yn cynnig cymorth iechyd meddwl a lles ar-lein yn uniongyrchol i bobl, ar unrhyw adeg, o gysur eu cartrefi eu hunain, heb fod angen mynd drwy eu meddyg teulu.

"Er ein bod yn wasanaeth ar-lein, dyw’r gwasanaeth ddim yn gyfyngedig i’r to iau. Mae pobl o bob oed yn defnyddio therapi ar-lein SilverCloud. Ein nod yw creu gofod ar-lein diogel i bobl archwilio eu heriau personol a gweithio tuag at y nod yn y pen draw o wella eu hiechyd meddwl a'u lles. Mae modd i ni feithrin perthynas go iawn gyda'r defnyddwyr ac mae'r adborth cadarnhaol a gawsom hyd yma wedi bod yn hynod o werthfawr."

Yn ôl ymchwil YouGov a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yr wythnos hon, y prif beth sydd wedi helpu i gynnal ysbryd pobl y Canolbarth yn ystod y cyfnod clo fu cadw mewn cysylltiad â’u teuluoedd a’u ffrindiau.

Dywedodd dros draean o bobl y Canolbarth (35%) fod siarad ag anwyliaid dros y ffôn neu’r fideo wedi eu helpu i aros yn gadarnhaol, er nad ydynt wedi gallu eu gweld yn bersonol, a dywedodd 34% fod gwneud ymarfer corff rheolaidd wedi gwneud gwahaniaeth mawr i'w hwyliau.

Mae bron i un o bob tri (31%) yn dweud mai cadw at drefn arferol sy’n gyfrifol am gynnal neu wella eu hiechyd meddwl a dywedodd bron i un o bob pump mai cael gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith (19%) oedd yn gyfrifol.

Mae Llywodraeth Cymru yn gwario mwy ar iechyd meddwl nag ar unrhyw agwedd arall ar y GIG, gyda mwy na £700 miliwn yn cael ei buddsoddi'n flynyddol. Cefnogir hyn gan gyllid ychwanegol o bron i £10 miliwn mewn amrywiaeth o fentrau gan gynnwys SilverCloud, llinell gymorth iechyd meddwl CALL a llinell gymorth anhwylderau bwyta BEAT, ac mae pob un ohonynt yn hawdd cael gafael arnynt a does dim angen atgyfeiriad gan eich meddyg teulu.

 

Yn ôl Joy Garfitt, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwasanaethau Iechyd Meddwl Bwrdd Iechyd Addysgu Powys, mae gwasanaethau fel SilverCloud yn achubiaeth i lawer o bobl yn y rhanbarth.

"Er bod ein meddygon teulu a'n hysbytai lleol o dan bwysau enfawr yn gofalu am gleifion Covid, rydym am sicrhau nad yw pobl yn dioddef yn dawel gan fod digon o ffyrdd eraill o gael help os ydych chi'n teimlo'n bryderus neu'n unig.

"Mae llawer o adnoddau a gwasanaethau defnyddiol iawn fel SilverCloud yn dal i weithredu ar draws Powys drwy gydol y pandemig gan helpu pobl i deimlo eu bod mewn cyswllt â phobl eraill a’u helpu i aros yn gadarnhaol. Drwy ymgyrch Helpwch Ni i’ch Helpu Chi rydym am dynnu sylw at y ffyrdd gwahanol y gall pobl  deimlo eu bod yn cael eu cefnogi a pharhau i allu cael y cymorth gorau yn y gymuned leol, tra bod hyn hefyd yn caniatáu i'n meddygon a'n nyrsys ganolbwyntio eu hymdrechion ar y bobl hynny sydd â phryderon iechyd corfforol neu feddyliol sydd angen eu hymyrraeth nhw."

Mae’r ymgyrch Helpwch Ni i’ch Helpu Chi yn cynnig yr awgrymiadau hyn ar gyfer diogelu eich iechyd meddwl yn ystod y cyfnod clo:

  1. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael digon o gwsg
  2. Bwytewch ddeiet cytbwys
  3. Dylech ymarfer y corff yn rheolaidd bob dydd, naill ai yn yr awyr agored neu drwy ddosbarthiadau ymarfer corff ar-lein
  4. Dylech osod trefn ddyddiol i roi strwythur i'ch diwrnod
  5. Lluniwch restr o bethau i'w gwneud, gyda nodau hawdd eu cyflawni
  6. Cadwch mewn cysylltiad â phobl dros y ffôn neu'r rhyngrwyd
  7. Daliwch ati i gymryd unrhyw feddyginiaethau sydd wedi'u rhagnodi i chi

Mae dwy ffordd i drigolion Powys gael mynediad i SilverCloud. Gall unrhyw un yng Nghymru gofrestru ar gyfer Hunangyfeiriad SilverCloud ar https://nhswales.silvercloudhealth.com/signup/.

Mae gwasanaeth cyfunol SilverCloud Blended yn fersiwn o’r cwrs sydd wedi'i theilwra ar gyfer trigolion Powys yn unig. Gallant gofrestru ar gyfer cwrs therapi ar-lein 12 wythnos ynghyd â chwe sesiwn cymorth dros y ffôn ac e-bost gydag ymarferydd CBT Ar-lein a fydd yn adolygu eu cynnydd, ac yn eu cyfeirio at weithgareddau ac offer sydd ar gael ar SilverCloud ac yn cynnig anogaeth a chefnogaeth. I gofrestru ar gyfer SilverCloud Blended, gall trigolion Powys gysylltu â sefydliad partner Bwrdd Iechyd Addysgu Powys sy'n gyfrifol am yr ardal lle maent yn byw: Cymdeithas Ponthafren yng Ngogledd PowysMind Canolbarth a Gogledd PowysMind Aberhonddu neu Mind Ystradgynlais.

Rhannu:
Cyswllt: