Neidio i'r prif gynnwy

Yr Angen am Gyfeillion ym Mhowys Wedi Cynyddu Ers Covid

Grŵp Gwasanaeth Cyfeillio Powys yn 23 Social yn y Drenewydd

Mae angen mwy o wirfoddolwyr i ymateb i nifer y bobl yn ceisio cefnogaeth gan Wasanaeth Cyfeillio Powys, sydd wedi codi mwy na 233% ers dechrau'r pandemig.

Mae hynny yn ôl Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys (PAVO) sy’n apelio am bobl i wirfoddoli a helpu eraill. Mae'r gwasanaeth wedi'i gynllunio i wella annibyniaeth pobl dros 50 oed drwy helpu i gynnal rhwydweithiau cymdeithasol a galluogi pobl i aros yn eu cartrefi mor hir â phosibl.

Mae'r apêl yn cael ei hamlygu gan ymgyrch Helpwch Ni i’ch Helpu Chi gan Lywodraeth Cymru, sy'n ceisio codi ymwybyddiaeth o'r newidiadau bach y gall pobl eu gwneud i helpu diogelu a gwella eu hiechyd a'u lles.

 Mae Sharon Healey yn rhedeg y gwasanaeth ac yn dweud:

"Cyn Covid, roedd gennym 180 o bobl ar draws Powys a oedd angen cymorth gan y Gwasanaeth Cyfeillio. Bellach, mae'r nifer hwnnw wedi saethu fyny i fwy na 600. Mae’r gwasanaeth ar agor i unrhyw un dros 50 oed sydd ȃ diffyg hyder yn rhyngweithio’n gymdeithasol. Mae'r Cyfeillion yn helpu i fynd i'r afael ag unigrwydd a gwella lles.

“Cyn Covid, roedd ein Cyfeillion yn cynnig sesiynau wyneb yn wyneb o fewn cartref yr unigolyn ond bu'n rhaid i ni newid dros nos gyda'r angen i gadw pellter cymdeithasol. Cawsom hefyd nifer enfawr o bobl yn chwilio am gefnogaeth yn sydyn."

Bellach, gall y Cyfeillion gynnig ymweliadau cartref unwaith eto ond hefyd mae modd cadw mewn cysylltiad gyda nhw drwy alwadau ffôn, llythyrau neu e-byst. Gallwch hefyd ddod â rhywun gyda chi i’r grŵp Cyfeillio er mwyn meithrin hyder. Mae PAVO bellach yn cynnig grwpiau cyfeillio rhithiwr:

"Rydym wedi bod mor gyfyngedig i'n cartrefi yn ystod y cyfnod clo ac, o ganlyniad, rydym wedi gweld nifer cynyddol o bobl yn cael trafferth gyda rhyngweithio’n gymdeithasol. Mae materion ynysu cymdeithasol, unigrwydd a lles gwael wedi dwysáu ers dechrau'r pandemig."

Mae Joyce Bettley o’r Drenewydd yn mwynhau ei galwadau cyfeillio:

"Rydw i’n edrych ymlaen at y galwadau gymaint ac mae fy ngwirfoddolwr yn wych. Rydyn ni’n siarad am fwyd, ryseitiau, coginio, jam a phob peth arall. Mae’n braf iawn. Roeddwn i ychydig yn betrusgar ar y dechrau ond fe wnaeth Natalie, Swyddog Allgymorth Gwasanaeth Cyfeillio Powys, fy mherswadio i roi cynnig arni ac dyma’r peth gorau i mi wneud."

Mae PAVO nawr yn apelio at bobl sy'n gyfeillgar, yn gallu siarad ag eraill yn hawdd ac yn gallu dechrau sgwrs:

“Does dim rhaid i chi fyw yn agos at Bowys i fod yn Gyfaill.  Mae gennym bobl sy’n gwirfoddoli yn America, Ffrainc a Groeg! Ond rydym yn aml yn gweld bod ganddyn nhw gysylltiad â Phowys - efallai eu bod wedi'u magu yma neu fod ganddyn nhw deulu yma. Gyda’r angen yn cynyddu, rydym hefyd yn chwilio am bobl sy’n medru ieithoedd eraill. Ar hyn o bryd, mae angen arnom bobl sy’n gallu siarad Tyrceg a Phwyleg.”

O ran ymrwymiad amser, rydym yn disgwyl hyd at awr y pythefnos. Mae gwirfoddolwyr cyfeillio yn cael eu hyfforddi ac yn cael gwiriad gan yr heddlu cyn ymweld â phobl yn eu cartrefi neu yn y gymuned.

Os hoffech wybod mwy am wirfoddoli i Wasanaeth Cyfeillio Powys, cysylltwch â ni ar 01597 822 191 neu 01686 626 220

Os ydych chi'n teimlo'n isel neu os ydych yn cael trafferth, cysylltwch â'r Llinell Gymorth CALL am gymorth gwrando ac emosiynol cyfrinachol. Mae llinellau ar agor 24/7, ffoniwch 0800 132 737 neu tecstiwch ‘help’ i 81066.

Rhannu:
Cyswllt: