Neidio i'r prif gynnwy

Apwyntiadau â'r Gwasanaethau Therapi a Gwyddor Iechyd yn y Dyfodol

Menyw fusnes yn gwirio e-bost ar-lein ar laptop

Mae pob un o wasanaethau therapi a gwyddor iechyd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (Awdioleg, Dieteg, Therapi Galwedigaethol, Ffisiotherapi, Podiatreg, Radiograffeg (pelydr-X ac Uwchsain) a Therapi Lleferydd ac Iaith) yn ailgyflwyno’u gwasanaethau arferol yn raddol yn sgil cyfnod cyfyngiadau symud Covid-19 nawr bod y Bwrdd Iechyd wedi cymeradwyo’r cynlluniau.

Mae rhai gwasanaethau wedi parhau i weithredu gydol y cyfnod hwn, gan gefnogi cleifion â phroblemau brys.

Mae’r rhain yn cynnwys gwasanaethau fel podiatreg, er enghraifft, sydd wedi parhau i drin cleifion ag anafiadau a bydd yn dechrau gweld y cleifion hynny yr ystyrir eu bod mewn risg uchel yn ogystal â’r rheini sydd ag anafiadau. Yna, yn raddol, bydd yn ehangu i gynnwys triniaethau eraill gan gadw pellter cymdeithasol a dilyn mesurau eraill i reoli haint.

Mae’r gwasanaeth Ffisiotherapi wedi cynnal gwasanaeth ffôn o bell ar gyfer atgyfeiriadau brys, yn unol â chanllawiau GIG Cymru.  Mae ein timau ffisiotherapi wedi bod yn cysylltu â chleifion, yn eu hasesu ac yn cynnig cyngor ar driniaeth, ac yn e-bostio rhaglenni ymarfer corff fideo atyn nhw.

Mae’r gwasanaeth Dieteg hefyd wedi parhau i asesu a chynghori cleifion allanol â blaenoriaeth dros y ffôn, ac maen nhw nawr wedi symud i ddechrau gweld cleifion rheolaidd, gan ddefnyddio clinigau rhithwir hefyd. Maen nhw hefyd wedi gweld cleifion mewnol â blaenoriaeth wyneb yn wyneb gydol y pandemig pan roedd hynny er budd gorau’r cleifion a phan roedd hi’n bosibl rheoli risg.

Mae’r gwasanaeth Awdioleg wedi parhau i gynnig gwasanaeth trwsio cymhorthion clyw a gwasanaeth darparu batris gydol COVID-19 ond bu’n gwneud hyn trwy’r post yn lle.

Mae’r gwasanaeth Therapi Galwedigaethol a Ffisiotherapi Cymunedol wedi parhau i gefnogi cleifion â’u hadsefydlu gartref gan ddilyn canllawiau COVID priodol a defnyddio cyfarpar diogelu personol perthnasol.

Mae’r gwasanaeth pelydr-X wedi cynnal gwasanaeth ar gyfer atgyfeiriadau brys yn unol â’r canllawiau.

Adfer y Gwasanaeth

Yn ystod y cyfnod cyfyngiadau symud, mae gwasanaethau wedi bod yn cysylltu â chleifion dros y ffôn neu drwy ddefnyddio technolegau newydd fel fideo-gynadledda. Mae hon yn ffordd hollol newydd o weithio i’r cleifion a’r clinigwyr fel ei gilydd. Mae’r pethau sydd wedi’u dysgu o hyn wedi ein galluogi i adolygu ein ffordd o gynnig gwasanaethau ar gyfer y dyfodol ac felly, er mwyn cwtogi ar nifer y bobl sy’n dod i mewn i’r ysbyty a sicrhau bod cleifion dal yn gallu cael eu hapwyntiadau yn ddiogel, rydyn ni eisoes wedi symud rhai apwyntiadau i wasanaeth ffôn neu wasanaeth fideo-gynadledda diogel o’r enw ‘Attend Anywhere’.

Os ydy apwyntiad wedi’i newid i ymgynghoriad dros yn ffôn neu drwy fideo-gynadledda, byddwn ni’n cysylltu â chleifion gydag amser addas a fydd wedi’i drefnu ymlaen llaw a dolen yn esbonio sut i fynychu eu hasesiad pan fydd yr apwyntiad wedi’i drefnu.

  • Mae galwad ffôn yn cynnwys trafodaeth fanwl gyda chlinigydd ynglŷn â’r broblem.  Nodir nodau i helpu i greu cynllun triniaeth, a bydd cleifion yn cael cyngor ac addysg ynglŷn â’u problem/ diagnosis. 

 

  • Mae asesiad fideo yn rhoi pob un o fuddion asesiad dros y ffôn ond mae’n defnyddio rhaglen ar-lein o’r enw ‘Attend Anywhere’. Mae hon yn caniatáu i’r clinigydd wneud rhai asesiadau trwy fideo i drafod ac arsylwi ar y broblem.

 

  • Bydd angen y canlynol ar gleifion:
    • cyfeiriad e-bost.
    • Porwr Rhyngrwyd Google Chrome neu Safari; os nad ydy un o’r rhain gennych chi, peidiwch â phoeni gan ei bod hi’n bosibl eu lawrlwytho yn rhad ac am ddim. 
    • Mae’n bwysig bod â mynediad da i’r rhyngrwyd a chamera e.e. ar ffôn clyfar, llechen neu liniadur.

I gael rhagor o wybodaeth a gweld cwestiynau cyffredin, dilynwch y ddolen hon Gwasanaethau Rhithiol ac Ar-lein neu https://digitalhealth.wales/cy/tec-cymru/gwasanaeth-ymgynghori-fideo-gig-cymru/gwasanaeth-ymgynghori-fideo-gig-cymru-cleifion 

 

Rydyn ni wedi derbyn adborth positif oddi wrth gleifion sydd wedi cael ymgynghoriad fideo yn ddiweddar.  Roedd y claf yn teimlo’n gyfforddus yn siarad â rhywun roedd yn gallu ei weld. Roedd yn ddefnyddiol iawn iddo weld ymarferion corff yn cael eu harddangos ac roedd yn gallu siarad am ei broblem.  Dywedodd y claf y byddai’n cymeradwyo fideo-gynadledda ac yn ei argymell i eraill. 

Dywedodd un o’r ffisiotherapyddion fod “Technoleg ‘Attend Anywhere’ yn gweithio’n dda.  Roedd y claf yn aros yn yr ystafell aros rithwir ar adeg ei apwyntiad a chysylltwyd ag ef yn hawdd iawn.  Nid oedd yna unrhyw broblemau â sain neu gysylltiad gydol yr ymgynghoriad.  Roedd y claf yn gallu addasu ei gamera yn ôl y galw i arsylwi ar symudiadau ac ymarferion corff.  Roedd yn brofiad positif at ei gilydd.’’

Mae’r gwasanaethau Awdioleg hefyd wedi bod yn defnyddio fideo-gynadledda ‘Attend Anywhere’ i ddangos sut i ddefnyddio rheolyddion cymhorthion clyw newydd ac i wneud yn siŵr bod cleifion yn rhoi’r cymorth clyw yn eu clust yn gywir.

Mae pob un o’n gwasanaethau therapi wedi bod yn gweithio’n galed i roi cynlluniau ar waith i ddechrau ailagor gwasanaethau cyffredin fesul cam ledled Powys, ond mae’n bosibl bod ffordd ein gwasanaethau o weithredu wedi newid fel rhan o ‘normal newydd’ i sicrhau ein bod ni’n cydymffurfio â deddfwriaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer cadw pellter cymdeithasol a chyngor GIG Cymru ar reoli haint. 

Bu’n rhaid i ni fabwysiadau dull ‘rhithwir yn gyntaf’ o weithredu mewn llawer o’n gwasanaethau.  Fel rhan o’r ‘normal newydd’, byddwn ni’n gallu cynnig ymgynghoriad dros y ffôn neu ymgynghoriad fideo i bob un o’n cleifion brys a rheolaidd cyn bo hir, trwy ‘Attend Anywhere’ os y bydd brysbennu wedi dangos bod hynny’n briodol.  Ni fyddwn ni’n gallu cynnig ymgynghoriadau wyneb yn wyneb i’r un graddau ag o’r blaen oherwydd gweithdrefnau rheoli haint llym yn ein safleoedd ysbyty.  Rydyn ni wedi adolygu ein gweithdrefnau atal a rheoli haint mewn ardaloedd clinigol i sicrhau ein bod ni’n cynnal amgylchedd clinigol diogel i staff a chleifion.  Wrth benderfynu ar gynnal apwyntiadau wyneb yn wyneb, byddwn ni’n ystyried yr angen clinigol a sefyllfa lle nad oes modd rheoli claf yn rhithwir. 

Rydyn ni’n agos at lunio ein cynlluniau terfynol ar gyfer ailagor gwasanaethau rheolaidd ond, yn anffodus, ni allwn ni roi dyddiad pendant ar hyn o bryd.  Fodd bynnag, mae pob un o’n timau therapi a gwyddor iechyd ar draws ein safleoedd ym Mhowys yn gweithio’n galed ar y cynlluniau ailagor ac yn edrych ymlaen at allu cefnogi’r boblogaeth leol i ddiwallu eu hanghenion therapi yn fuan iawn.

Trwy adfer gwasanaethau arferol yn raddol ac mewn amrywiaeth o ffyrdd gwahanol, rydyn ni’n gobeithio cynnig cymaint o ddewis â phosibl i gleifion tra ein bod hefyd yn sicrhau ein bod ni’n gwneud hyn mewn modd mor ddiogel â phosibl i gleifion a staff fel ei gilydd.

 

Rhannu:
Cyswllt: