Sefydlwyd Achub Bywyd Cymru i annog pobl i ddysgu CPR ac i deimlo’n hyderus wrth ddefnyddio di-ffib petai rhywun annwyl iddynt yn cael ataliad ar y galon yn y cartref.
Yng Nghymru yn flynyddol, bydd dros 6,000 o bobl yn cael ataliad ar y galon allan yn y gymuned a bydd llai na 5% yn goroesi. Nod Achub Bywyd Cymru yw cynyddu’r gyfradd oroesi hon yn sylweddol.
Mae’r ymgyrch Cyffwrdd â Bywyd yn canolbwyntio ar addysgu sgiliau sylfaenol CPR a diffibrilio - cynigir hyfforddiant ar-lein oherwydd Covid-19. I wylio’r fideo hyfforddi byr a chael mwy o wybodaeth, ewch i llyw.cymru/achubbywydcymru