Neidio i'r prif gynnwy

Arwyr Brechu COVID-19: Tîm Olrhain Cysylltiadau Powys

Drwy gydol cyfnod COVID-19, mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a Chyngor Sir Powys wedi bod yn cydweithio'n agos i gefnogi trigolion a chymunedau lleol.

Un enghraifft o hyn yw’r modd y mae aelodau o'r Tîm Olrhain Cysylltiadau wedi gweithio fel rhan o Dîm Archebu Brechiadau'r sir.

Mae'r rhai sy'n delio â galwadau ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 4pm i ateb ymholiadau am apwyntiadau brechu. Mae hyn yn cynnwys gwneud apwyntiadau, aildrefnu os na all pobl fynychu, ac ymateb i ymholiadau cyffredinol.

Yn ogystal â helpu rhaglen brechu lwyddiannus y sir, mae hefyd yn golygu bod swyddogion olrhain cysylltiadau yn barod i helpu i ymateb i glystyrau neu niferoedd uwch o achosion os oes angen. Mae rôl swyddogion olrhain cysylltiadau yr un mor bwysig ag erioed, gydag amrywiolyn Delta yn lledu drwy Gymru a nifer yr achosion yn dechrau codi eto. Mae profion ar gael ym Mhowys a thrwy'r post i bobl sydd â symptomau, a’r rhai sydd heb symptomau. Mae rhagor o wybodaeth ar gael gan biap.gig.cymru/yma/pod

Mae ymhell dros 190,000 dos o frechlyn COVID-19 wedi'u rhoi i drigolion Powys ac i weithwyr iechyd a gofal y sir – a thrwy gydol 2021 bu gan y sir un o'r cyfraddau brechu uchaf yn y wlad.

Mae aelodau'r tîm olrhain cysylltiadau wedi chwarae rhan hanfodol yn hyn, a bydd miloedd o bobl wedi clywed eu llais cyfeillgar ar ben arall y ffôn yn rhoi cyngor defnyddiol am y brechiad.

Greg Langridge-Thomas yw Rheolwr Gweithredol Olrhain Cysylltiadau Cyngor Sir Powys: "Mae'r Cyngor a'r Bwrdd Iechyd wedi bod yn cydweithio'n agos drwy gydol y pandemig i Gadw Powys yn Ddiogel. Mae hwn wedi bod yn gyfle gwych i aelodau'r tîm olrhain cysylltiadau ddefnyddio eu sgiliau i gefnogi rhaglen brechu Powys."

Kate Prothero yw Rheolwr Busnes Brechu Bwrdd Iechyd Addysgu Powys e.e. "Mae'r swyddogion olrhain cysylltiadau wedi bod yn ychwanegiad gwych i'r tîm, gan ein helpu i ddelio â'r miloedd o ymholiadau a gawn am apwyntiadau brechu. Hoffwn ddiolch yn bersonol i bawb sydd wedi chwarae rhan hanfodol yn ein rhaglen brechu yma ym Mhowys."

Mae rhagor o wybodaeth am raglen brechu COVID-19 ym Mhowys ar gael ar ein gwefan yn pthb.nhs.wales/covid-vaccine

Gall unrhyw un sy'n 18 oed a hŷn ym Mhowys sydd heb gael eu dos cyntaf eto gysylltu drwy ein Ffurflen Blaenoriaeth ar pthb.nhs.wales/find/priority-access

Rhannu:
Cyswllt: