Neidio i'r prif gynnwy

Arwyr Brechu: Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd

Yn ein herthygl ddiweddaraf ar arwyr brechu, hoffem ddiolch i'n Gweithwyr Cymorth Gofal Iechyd (GCGI).

Yn gwisgo gwisgoedd gwyrdd, mae'n ddigon posibl eich bod wedi gweld GCGI ar wardiau ysbytai, yn y meddyg teulu neu mewn lleoliadau cymunedol yn y gorffennol. Ond yn ystod COVID maent wedi chwarae rhan hanfodol wrth ddarparu brechiadau ar draws Powys.

Yn ogystal â helpu i sicrhau bod popeth yn rhedeg yn esmwyth, mae ein GCGI yn gofalu am bobl ar ôl iddynt gael eu brechu. Mae arsylwi pobl yn ofalus ar ôl eu brechlyn yn rhan hanfodol o'r broses i sicrhau, os bydd unrhyw un yn cael ymateb i'r brechlyn, eu bod yn cael y gofal sydd ei angen arnynt.

Mae Ann Price wedi dod yn ôl ar ôl ymddeol i helpu yn ystod COVID. Dywedodd “Yn ogystal â helpu i sicrhau bod pobl yn ddiogel ac yn cael eu harsylwi ar ôl eu brechu, mae'n wych gallu rhoi ychydig o ryngweithio cymdeithasol i bobl nad ydyn nhw efallai wedi gadael eu cartrefi yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.”

Mae Rachel Nobel yn weithiwr Cymorth Gofal Iechyd ond hefyd yn fyfyriwr nyrsio. Dywedodd wrthyf “Rydyn ni i gyd yma at un achos anhygoel ac mae pawb yn tynnu at ei gilydd. Mae'n dîm gwych i fod yn rhan ohono ac rwy'n teimlo'n freintiedig y gallwn fywiogi diwrnod pobl ychydig trwy helpu i roi'r brechiad iddynt. ”

Mae Eira Meyer yn GCGI o'r Drenewydd a dywedodd “Mae'n gyffrous bod yn rhan o'r tîm ac rwy'n falch iawn o helpu i wneud iddo ddigwydd.”

Diolch i chi i gyd am y gwaith rydych chi'n ei wneud.

Mae mwy o wybodaeth am frechu COVID-19 ar gael o'n tudalennau brechu COVID-19 .

Rhannu:
Cyswllt: