Neidio i'r prif gynnwy

Arwyr Brechu: Tîm Fferyllol

Yn ail wythnos brechu COVID ym Mhowys, rydym yn brechu 975 o staff iechyd a gofal eraill sy'n byw yng ngogledd y sir.

Mae dosbarthu miloedd o ddosau o frechlyn mewn cyfnod mor fyr yn ymgymeriad enfawr a dim ond oherwydd ymdrech aruthrol ystod enfawr o bobl y mae'n bosibl.

Yn ein hail bost ar Arwyr Brechu, rydym am ddangos ein gwerthfawrogiad am ein tîm rheoli meddygaeth. Dyma'r bobl nad ydych chi fwy na thebyg wedi eu gweld na siarad â nhw, ond hebddyn nhw ni fyddai brechlyn i'w weld ym Mhowys.

Eglura Jacqui Seaton, ein Prif Fferyllydd “Mae'r tîm rheoli meddyginiaethau cyfan wedi dod at ei gilydd dros yr wythnosau diwethaf i roi rhaglen frechu mor fawr ar waith. Mae wir yn teimlo ein bod ni'n gwneud cymaint o wahaniaeth.”

Lluniodd Emily Guerin, Uwch Dechnegydd Fferylliaeth, y pecyn hyfforddi arbenigol ar reoli cadwyn oer ar gyfer cydweithwyr BIAP a oedd yn hanfodol i weithio gyda'r brechlyn COVID cyfredol. Meddai “Mae hyn wir wedi ehangu ein sgiliau, gan lunio pecynnau hyfforddi ar-lein sy’n cyrraedd ein holl staff ar draws 2,000 milltir sgwâr o Bowys fel y gallwn sicrhau bod y brechlyn cyntaf hwn yn cael ei reoli’n ddiogel ac yn effeithiol.”

 

Adrian Byrne yw Pennaeth Gwasanaethau a Gomisiynwyd ar gyfer y Tîm Rheoli Meddyginiaethau. Esboniodd “mae wedi bod yn gyfle gwych i weithio gyda'n gilydd fel tîm. Yn aml mae ein rolau'n golygu ein bod ni'n canolbwyntio ar wahanol feysydd ac arbenigeddau ond yr wythnos hon gyda'n gilydd rydyn ni'n gwneud newid positif i Bowys.

 

Diolchwn iddyn nhw a phob un o aelodau eraill eu tîm sydd wedi chwarae rhan mor bwysig i helpu ni i gyrraedd lle rydyn ni'r wythnos hon.

Rhannu:
Cyswllt: