Neidio i'r prif gynnwy

Bod yn rhan o ddatblygu Gwasanaeth Rheoli Pwysau ym Mhowys

Mae eich Barn yn Bwysig!

  • Oes gennych chi Fynegai Màs y Corff o dros 40? GIG Cymru - Cyfrifiannell BMI
  • A ydych wedi cael trafferth gyda cholli pwysau neu wedi cael anhawster i gael mynediad at wasanaethau colli pwysau'r GIG yn y gorffennol?
  • Hoffech chi fod yn rhan o ddatblygu Gwasanaeth Rheoli Pwysau ym Mhowys?
     

Cymerwch ran yn y grŵp ffocws rhithwir gyda'r rhai sy'n ymwneud â thrawsnewid
Gwasanaethau Rheoli Pwysau ym Mhowys a lleisio’ch meddyliau, eich teimladau, eich agweddau a'ch syniadau i ddatblygu'r gwasanaeth hwn.


Bydd y grŵp ffocws yn cael ei gynnal gan ddefnyddio Microsoft Teams.
13eg Gorffennaf 2021 am 6:30 p.m. – 7:30 p.m.
20fed Gorffennaf 2021 am 2:00 p.m. – 3:00 p.m.


I gymryd rhan, cysylltwch â:
Catherine Quarrell, Rheolwr Datblygu Gwasanaethau
catherine.quarrell@wales.nhs.uk
01874 712590


Os hoffech gymryd rhan ac os hoffech archebu sesiwn brawf i wirio bod eich offer wedi'i osod yn gywir, neu os hoffech gael cyngor pellach ar ddefnyddio offer digidol i gael mynediad i'r gwasanaeth,
cliciwch y ddolen hon: Sesiwn Cymorth Digidol er mwyn archebu ar-lein neu ffoniwch 01874 712 499 i archebu dros y ffôn.

Rhannu:
Cyswllt: